S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cyw iâr (a llysiau)

Cynhwysion

Ar gyfer y stwffin:

  • 5 darn hen bara
  • 1 winwns
  • 6 bricyll
  • dyrnaid cnau pecan neu Ffrengig
  • 1 llwy de teim
  • 1 ŵy
  • 50ml hufen dwbl
  • 1 llwy fwrdd menyn ac olew
  • halen a phupur

Ar gyfer y cyw iâr:

  • 1 brest cyw iâr neu 2 clun heb asgwrn
  • 2 sleis bacwn neu ham

Dull

  1. Ewch ati i wneud y stwffin wrth fali bara hen mewn prosesydd bwyd.
  2. Piliwch a thorrwch winwnsyn yn fan, ffriwch mewn ychydig o fenyn ac olew.
  3. Ychwanegwch y winwns i'r briwsion bara, yna ychwanegwch lwy fwrdd teim, halen a phupur yna cymysgwch yn drylwyr.
  4. Ychwanegwch 1 ŵy ac 1 llwy fwrdd o hufen dwbl i leithio'r stwffin.
  5. Gosodwch haen o cling ffilm ar y bwrdd gegin a gosodwch yr ham/bacwn ar ben y cling ffilm.
  6. Cymerwch y cyw iâr a gyda chyllell sharp agorwch i fyny'r frest i wneud yn denau a fflat.
  7. Gosodwch y frest ar ben yr ham/bacwn a gosodwch ddyrnaid o stwffin yn y canol.
  8. Lapiwch yr ochr agosach i chi dros y stwffin i gau, gan wthio ar y llenwad.
  9. Roliwch i ffurfio cylinder. Gall hwn nawr mynd yn yr oergell nes chi'n barod i goginio.
  10. Pryd rydych yn barod i goginio, gwaredwch y cling ffilm a gosodwch y cyw iâr ar dun pobi a gorchuddiwch gyda ffoil.
  11. Pobwch yn y ffwrn am tua 40 munud, gan ddibynnu ar faint y roll.
  12. Dadorchuddiwch y ffoil a gosodwch nôl yn y ffwrn am 10 munud arall i wneud yr ham/bacwn yn euraidd.
  13. Gwiriwch fod tymheredd ganol y cyw iâr yn 75°c.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?