S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Peli cig Swedaidd, tatws a llysiau gwyrdd

Cynhwysion

  • 1 llwy fwrdd olew olewydd
  • 4 shibwns, wedi torri'n fân
  • 2 clof garlleg, wedi torri'n fân neu ratio
  • 175g briwgig porc heb lawer o fraster
  • 1 melynwy
  • bwnsh bach o dil ffres, wedi torri'n fân
  • 350ml stoc cyw iâr
  • 1 llwy de mwstard dijon
  • 80g iogwrt plaen di-fraster
  • 250g tatws newydd
  • 180g llysiau gwyrdd y gwanwyn

Dull

  1. Mewn bowlen, cymysgwch y shibwns, garlleg, briwgig porc, melynwy, dil ac ychydig o sesnin.
  2. Rhannwch y gymysgedd mewn i 12 o beli cig. Cynheswch yr olew mewn padell ganolig a brownio'r peli cig, gan eu troi yn ofalus tan eu bod wedi coginio.
  3. Tynnwch y peli cig o'r badell ac ychwanegwch y stoc. Dewch a'r stoc i ferwi cyn ei leihau i fudferwi.
  4. Cymysgwch y mwstard Dijon a'r iogwrt drwyddo – blaswch a gwirio'r sesnin cyn dychwelyd y peli cig i'w cadw yn gynnes.
  5. Yn y cyfamser, berwch y tatws Newydd tan yn feddal, ac mewn sosban arall coginiwch y llysiau gwyrdd am ychydig funudau.
  6. I weini, rhannwch y tatws, llysiau gwyrdd a'r peli cig rhwng dau blât ac arllwys y saws ar y blât.

Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

Instagram Beca: @becalynepirkis

Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?