S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Katsu cyw iâr, reis a salad

Cynhwysion

  • 1 llwy de olew
  • 1 nionyn canolig (wedi ei dorri'n fras)
  • 3 clof garlleg (wedi ei dorri'n fras)
  • 10g sinsir ffres (wedi ei dorri'n fras)
  • 1 llwy de powdr cyrri
  • 1 star anise
  • 2 moron
  • 180g cyw iâr
  • 90g reis brown
  • 80g ciwcymbr
  • 1 llwy fwrdd finegr
  • 50g pys wedi rhewi

Dull

  1. Mewn ffreipan 'non stick', cynheswch yr olew dros wres canolig i isel ac ychwanegwch y nionyn ac un moron (wedi ei dorri'n fras), hefo'r star anise a choginio, gan droi o bryd i'w gilydd tan yn feddal a melys – tua 8-10munud, ychwanegwch ychydig o ddŵr os yw'r cynhwysion yn dechrau sticio i'r gwaelod.
  2. Ar ôl rhyw 10 munud ychwanegwch y garlleg, sinsir a pwdr cyrri a pharhau i goginio am ychydig funudau eto.
  3. Blitsiwch y llysiau mewn prosesydd bwyd gydag ychydig o ddŵr i greu saws trwchus. Rhowch i un ochr.
  4. Coginiwch y reis yn ôl cyfarwyddiadau'r paced.
  5. Torrwch y moron olaf a'r ciwcymbr mewn i rubanau a'i roi mewn bowlen.
  6. Coginiwch y pys am 1 funud mewn dŵr berwedig, draeniwch ac ychwanegwch y pys at y moron a'r ciwcymbr.
  7. Ychwanegwch y finegr a phinsiad o halen. Cymysgwch a gadewch i biclo.
  8. Tra bo'r reis yn coginio, rhowch y cyw iâr rhwng dau ddarn papur pobi a'i wasgu'n fflat gyda sosban neu rolbren.
  9. Brwsiwch badell 'non-stick' neu badell grilio hefo ychydig o olew a choginio'r cyw iâr tan ei fod wedi coginio.
  10. I weini, cynheswch y saws, rhannwch y reis, salad a'r cyw iâr rhwng dau blât a gorffen hefo'r saws katsu.

Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

Instagram Beca: @becalynepirkis

Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?