S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen simnel

Cynhwysion

  • 225g menyn
  • 225g blawd codi
  • 3 llwy de sbeisys cymysg
  • 400g ffrwythau sych
  • 150g siwgr muscovado
  • 50g surop euraidd
  • 1 croen oren
  • 1 croen lemwn
  • 4 ŵy

I addurno:

  • 500g marsipán
  • 50g jam bricyll

Dull

  1. Seimiwch tun cacen 8 modfedd efo menyn a leiniwch efo papur.
  2. Mewn bowlen fawr, gosodwch menyn, siwgr, surop, croen oren a lemwn. Chwipiwch at ei gilydd yn defnyddio whisk nes i'r cymysgedd droi'n feddal.
  3. Cymysgwch mewn yr wyau un ar y tro nes i'r cymysgedd cyfuno.
  4. Gosodwch y cacen mewn tun.
  5. Pobwch am 30 munud yna gorchuddiwch efo ffoil a pobwch am 1 awr nes i'r gacen codi a coginio trwyddo.
  6. Symudwch y cacen arno i plat.
  7. Gorchuddiwch arwyneb y cacen efo jam bricyll.
  8. Roliwch allan 2/3 o'r marsipan nes mae maint top y cacen, yna gosodwch ar y top.
  9. Roliwch gweddill y marsipan mewn i 11 bel yr un maint. Brwshiwch gwaelod bob bel gyda tamed o jam bricyll, yna gosodwch ar ochrau'r gacen.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?