S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Treiffl mousse siocled

Cynhwysion

  • 180g siocled dywyll
  • 8 gwynwy
  • ¼ llwy de sudd lemwn
  • 20g siwgr mân

Dull

  1. Toddwch y siocled mewn bowlen fawr dros sosban gyda dŵr mudferw.
  2. Gyda pheiriant cymysgu, chwipiwch y gwynnwy efo'r sudd lemwn ar gyflymder cymedrol nes i'r cymysgedd meddalu.
  3. Ar gyflymder uchel, chwipiwch mewn y siwgr.
  4. Parhewch i gymysgu/chwipio nes iddo gyrraedd pigau cadarn (firm peaks).
  5. Cymerwch trydydd o'r gwynnwy a chwipiwch nhw mewn i'r siocled wedi'i doddi, yna arllwyswch mewn gweddill yr wy gan ddefnyddio spatula.
  6. Arllwyswch y mousse mewn yn bowlenni arwahan neu wydrau, a gadwch yn yr oergell i setio am rhwng 6 a 12 awr.
  7. Ychwanegwch y gacen spurge, ffrwythau a mousse siocled i ffurfio'r treifflau.

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?