S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pwdin banana a toffi gludiog

Cynhwysion

  • 350g datys
  • 600ml dŵr
  • 2 lwy fwrdd soda bicarb
  • 250g menyn
  • 350g siwgr castir
  • 4 ŵy
  • 350g blawd codi
  • 3 banana

Ar gyfer y saws toffi:

  • 350g menyn
  • 450ml hufen dwbl
  • 550 siwgr brown
  • 2-3 shot rỳm

Dull

  1. Berwch y datys yn dŵr â soda bicarb, ac yna tynnwch bant y gwres.
  2. Cymysgwch menyn + siwgr castir nes iddyn nhw gymysgu at ei gilydd.
  3. Ychwanegwch yr wyau + bananas (wedi mashio).
  4. Adiwch y cymysgedd datys yna cymysgwch yn y blawd.
  5. Pobwch ar dymheredd 170°C am tua 35 i 40 munud.
  6. Ar gyfer y saws toffi, gosodwch y cynhwysion mewn pan dwfn a berwch nes iddo droi'n drwchus.

Rysáit gan Shane James, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?