S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Draenogyn y môr (seabass) a lemwn

Cynhwysion

  • 2 ffiled o ddraenogyn y môr (seabass)
  • 50g menyn
  • 25g sifys (chives)
  • 25g persli
  • 1 lemwn
  • 1 sudd lemwn
  • 50g caprys (capers)
  • 25g brwyniad (anchovies)

Dull

  1. Cynheswch olew mewn ffrimpan ar dymheredd cymedrol.
  2. Ychwanegwch sesnin (halen a phupur) i'r pysgod yna gosodwch groen gyntaf mewn i'r pan.
  3. Ffriwch am 3-4 munud. Unwaith maent wedi lliwio, trowch drosodd, ychwanegwch y menyn yna diffoddwch y gwres.
  4. Unwaith i'r menyn doddi, tynnwch allan y seabass a'i gosod i un ochr.
  5. Gosodwch y ffrimpan nol ar y gwres.
  6. Ychwanegwch bersli, sifys, lemwn, sudd lemwn, caprys a brwyniad. Cynheswch yna'i gosod dros y seabass.

Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Rhannu’r rysáit
    close button

    Rhannu’r rysáit trwy:

    Copio’r ddolen

    copy icon
    Sut i goginio
    Copio
    Wedi’i gopio
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?