S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pasta garlleg a madarch

Cynhwysion

  • 2 lwy fwrdd olew olewydd
  • 50g menyn hallt
  • 1 winwns
  • 5 madarch
  • 100g madarch wystrys (oyster)
  • 2 clof garlleg
  • 250g pasta
  • 150ml hufen dwbl
  • 150ml gwin gwyn
  • 100g parmesan
  • halen a phupur
  • persli
  • olew tryffl

Dull

  1. Rhowch badell gyda gwaelod trwm ar wres isel ac ychwanegwch hanner y menyn, y winwnsyn a'r madarch a'u ffrio am 5 munud, gan droi'n rheolaidd, nes bod y winwns wedi meddalu, a'r madarch wedi'u brownio'n ysgafn. Ychwanegwch y garlleg a'r hufen a choginiwch am 1 munud, gan droi.
  2. Berwch y pasta a choginiwch tan al dente. Ni ddylai fod yn rhy feddal.
  3. Ychwanegwch y pasta wedi'i ddraenio i'r badell madarch.
  4. Tynnwch y sosban oddi ar y gwres, cymysgwch y Parmesan a gweddill y menyn. Gorchuddiwch â chaead a gadewch i sefyll am 5 munud. Cyn ei weini, cymysgwch yn dda, a'i wasgaru'r persli ffres.
  5. I weini ychwanegwch pupur du ac ychydig o olew tryffl.

Rysáit gan Dan Williams, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?