Dewisiadau
Cynnwys
Hafan
Pori
Adloniant
Chwaraeon
Cerddoriaeth
Drama
Ffeithiol
Cyw
Stwnsh
Gwylio
Amserlenni
English
Yn fyw
Prynhawn Da
Ar nesaf
Newyddion S4C
Menu
Hafan Cegin
Llysieuol
Cig
Gan Colleen Ramsey
Caserol cig eidion
Gan
Catrin Thomas
Hawdd
Cynhwysion
2 lwy fwrdd olew olewydd
1kg cig eidion
2 winwns coch
1 pupur coch
3 clof garlleg
400ml stoc llysiau
2 x 400g ffa llygaid du (black eyed)
1 llwy fwrdd tomato purée
400g tun tomato
1 llwy de siwgr
2 lwy de paprica
1 llwy de cwmin
1 – 2 tsili gwyrdd
halen a phupur
gweini gyda thatws wedi'i stwnshio neu reis
Dull
Cynheswch y popty i 140 Celsius / Nwy 3
Cynhesu'r olew mewn padell fawr sydd â chaead a gellid ei roi yn y popty.
Ychwanegwch y cig eidion a browniwch y cyfan. Gwnewch hyn mewn sypiau.
Dylai'r cig eidion fod yn euraidd i gyd.
Ychwanegwch y winwns, pupurau, garlleg a chilli a'u ffrio am ychydig funudau.
Ychwanegwch y sbeisys a choginiwch am ychydig funudau, yna'r piwrî tomato.
Ychwanegwch y stoc a'r tomatos tun.
Dewch â'r berw.
Ychwanegwch y cig eidion yn ôl i'r badell.
Gorchuddiwch a choginiwch am 1 awr a hanner i 2 awr. Dylai'r cig eidion fod yn dyner.
Trowch y ffa i mewn yr hanner awr olaf o goginio.
Gweinwch gyda stwnsh neu reis a llysiau.
Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Print recipe
Argraffu'r Rysáit
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.
Please consider the environment before printing.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?