S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cawl pwmpen

Cynhwysion

  • 1 pwmpen NEU 1 sgwash
  • 1 winwnsyn
  • 2 moron
  • 1 clof garlleg
  • 5cm gwraidd sinsir
  • 500ml stoc cyw iâr neu llysiau
  • Tun tomato
  • 20g menyn
  • 1 llwy fwrdd olew llysiau
  • halen a phupur
  • ½ tsili

Dull

  1. Torrwch eich pwmpen yn chwarteri, tynnwch yr holl hadau meddal y tu mewn a'r hadau pwmpen (gallwch gadw'r rhain i'w bwyta nes ymlaen neu cadwch nhw ar gyfer yr adar!).
  2. Piliwch a thorrwch y cnawd oren yn giwbiau bach, yn barod ar gyfer coginio.
  3. Piliwch a thorrwch y winwnsyn, y sinsir a'r garlleg a'u ffrio mewn ychydig o fenyn ac olew ar waelod un fawr sosban nes yn feddal.
  4. Piliwch y moron, torrwch yn ddarnau bach a'u hychwanegu at y sosban ynghyd â'ch pwmpen parod.
  5. Ychwanegu tua litr o stoc cyw iâr, digon i orchuddio'r llysiau, a dod ag ef i'r berw.
  6. Ychwanegwch dun o domatos os ydych chi'n hoffi cawl teneuach.
  7. Ar ôl berwi, trowch y gwres i lawr a mudferwch am tua 20 munud, nes bod y llysiau i gyd wedi coginio a meddal.
  8. Gadewch iddo oeri ychydig ac yna ei gymysgu gan ddefnyddio cymysgydd trydan (neu stwnsiwr tatws) nes ei fod yn llyfn.
  9. Sesnwch gyda halen a phupur a chwyrlïwch ychydig o hufen cyn ei weini gyda bara crystiog cynnes!

Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Instagram: @lisafearncooks

Twitter: @lisaannefearn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?