S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Catrin Thomas

    calendar Dydd Mawrth, 08 Tachwedd 2022

  • Moussaka llysieuol

    Cynhwysion

    • 2 aubergine
    • 275ml stoc lysieuol
    • 100g ffacbys
    • 4 llwy fwrdd olew olewydd
    • 1 pupur coch
    • 2 clof garlleg
    • 1 tun tomatos
    • 200ml gwin coch
    • 2 lwy fwrdd tomato purée
    • 1 llwy de sinamon
    • persli
    I'w addurno:
    • 250g ricota
    • 275ml llaeth
    • 25g blawd plaen
    • 25g menyn
    • Nytmeg wedi gratio
    • 1 ŵy
    • 30g parmesan

    Dull

    1. Cynheswch y popty i 160C ffan/ Nwy 4
    2. Golchwch y corbys mewn rhidyll a'u rhoi mewn sosban gyda'r stoc poeth a'u mudferwi am 30 munud nes bod yr hylif bron wedi amsugno.
    3. Yn y cyfamser cynheswch 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban fawr a ffriwch y winwns, yna ychwanegwch y pupur a'r garlleg.
    4. Yna tynnwch allan a'i roi mewn dysgl.
    5. Ychwanegwch y 2 lwy fwrdd o olew olewydd i'r badell a dechreuwch ffrio'r wylys (aubergines).
    6. Unwaith y byddan nhw'n frown euraidd, ychwanegwch y tomatos wedi'u draenio, y cymysgedd winwnsyn.
    7. Ychwanegwch y gwin coch, y piwrî tomato a'r sinamon.
    8. Ychwanegwch y corbys a'r persli wedi'i dorri.
    9. Sesno a mudferwi.
    10. I wneud y topyn cymsygwch y llefrith, blawd, menyn yn dda nes iddo ddod i'r berw.
    11. Sesnwch yn dda.
    12. Ychwanegwch y ricotta a'r wy oddi ar y gwres.
    13. Trosglwyddwch y cymysgedd corbys i ddysgl lasagne a'r topin hufennog.
    14. Topiwch gyda Parmesan.
    15. Pobwch am 1 awr.
    16. Gadewch i orffwys am 15 munud a gweinwch gyda salad a bara pitta.

    Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?