S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Pwdin sinsir a thaffi

Cynhwysion

  • 75g menyn
  • 150g siwgr caster
  • 2 ŵy
  • 175g blawd codi
  • 175g datys
  • 2 pelen sinsir wedi crisialu
  • 6 llwy fwrdd dŵr berw
  • 2 lwy de powdr coffi
  • 1 llwy de fanila
  • ¾ llwy de powdr soda

Ar gyfer y saws

  • 175g siwgr brown
  • 100g menyn
  • 6 llwy fwrdd hufen
  • 1 llwy fwrdd o rum
  • 25g cnau pecan

Dull

  1. Urwch 8 pot pwdin bach ac olew a gosod darn o bapur gwrthsaim ymhob un.
  2. Gosodwch y datys mewn powlen gan ychwanegu'r dŵr, fanila, coffi a'r powdr soda gadewch am ychydig.
  3. Chwyrliwch y menyn ar siwgr tan yn olau ac yn raddol ychwanegwch y wyau ac yna'r blawd wedi rhydyllu.
  4. Torrwch y sinsir yn ddarnau man a ychwanegwch ynghyd ar gymysgedd datys a rhannwch rhwng y potiau gosodwch ar din pobi a choginio am 25 min 180°c | Ffan 160°c | Nwy 4.
  5. Gadewch am 5 min ac yna trowch allan i blât
  6. Y saws Taffi: Gosodwch y menyn, siwgr, hufen a'r cnau mewn sosban a thoddi i greu saws taffi, dewch o'r gwres, yna fewn a'r rym. Gwaenwch gyda digon o hufen dros y pwdin.

Rysáit gan Gareth Richards, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?