Cacen caws sinsir a siocled gwyn
Cynhwysion
Ar gyfer y gacen caws:
- 250g bisgedi sinsir
- 50g menyn (heb halen)
- 250g darnau siocled gwyn
- 450g caws hufen
- 50g siwgr mân
- 1½ llwy de fanila (extract)
- 250ml hufen dwbl
Ar gyfer y topin:
- 4 eirin
- 4 ffigys
- Mwyar Duon
- 25g cnau pistasio
- 3 deilen llawryf (bay leaf)
- 2 lwy fwrdd siwgr mân
- 4 llwy fwrdd mêl
- 4 llwy fwrdd rỳm (opsiynol)
Dull
- Blitsiwch y bisgedi mewn prosesydd bwyd i friwsion mân neu piciwch i mewn i fag a bash gyda rholbren. Trowch y menyn wedi'i doddi a thipiwch y cymysgedd bisgedi menyn i'r tun, gan ei wasgu'n gadarn i lawr gyda chefn llwy.
- Rhowch y siocled mewn powlen gwrth-wres a'i doddi dros badell o ddŵr sy'n mudferwi. Gadewch i oeri.
- Chwisgwch y caws hufen, siwgr a fanila mewn powlen fawr nes yn llyfn. Ychwanegwch y siocled wedi'i doddi wedi'i oeri a'i chwisgo i gyfuno, yna ychwanegwch yr hufen a pharhau i chwisgo nes ei fod yn drwchus. Trowch i mewn i'r tun a llyfnwch y top yna piciwch i'r oergell dros nos i gadarnhau.
- Ar gyfer y topin ffrwythau, rhowch yr eirin, ffigys a mwyar duon mewn un haen mewn dysgl fawr ac ychwanegwch y dail llawryf a'r cnau. Ysgeintiwch y siwgr dros y ffrwythau a thaenu mêl a rym dros bopeth. Taflwch i got.
- Rhostiwch yn y popty ar 200 ffan am 15-20 munud nes ei fod yn feddal a'r sudd yn suropi. Gadewch i oeri.
- I'w rhoi at ei gilydd, tynnwch y gacen gaws o'r tun a threfnwch y ffrwythau a'r cnau ar ei ben a'i arllwys â surop ffrwythau.
Rysáit gan Michelle Evans-Fecci, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.
Instagram: @bakesbymichelle
Twitter: @bakesbymichelle