S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacennau eog

Cynhwysion

  • 1 tatws
  • 1 tun 220g eog
  • 2 ŵy wedi berwi
  • 2 lwy fwrdd perlysiau
  • 2 gercyn
  • 1 llwy fwrdd caprys
  • 1 lemwn
  • blawd plaen
  • 1 llwy fwrdd olew a menyn

Dull

  1. Piliwch a thorrwch y tatws a berwch nhw mewn dŵr hallt, draeniwch nhw a'u stwnshio.
  2. Draeniwch yr hylif o'r eog tun a'i stwnshio i bast.
  3. Cyfunwch y tatws a'r eog. Torrwch yr wyau, capers, gherkins a pherlysiau a'u hychwanegu at yr eog.
  4. Ychwanegwch groen y lemwn a'r sudd a chymysgwch yn dda. Ychwanegwch halen a phupur cayenne. Ffurfiwch yn 6 cacen bysgod a llwch gyda'r blawd. Oerwch am o leiaf 30 munud neu dros nos.
  5. Cynhesu'r olew a'r menyn mewn padell ffrio dros wres canolig a ffrio'r cacennau pysgod nes eu bod yn euraidd ar y ddwy ochr.
  6. Gweinwch gyda saws tartar a darn o lemwn.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?