Saws Nana
Cynhwysion
(Digon i 6)
- 4 llwy fwrdd o biwrî blodfresych
- 4 llwy fwrdd o biwrî cabaets gwyn
- 1 pecyn neu 6 darn o facwn brith
- olew ar gyfer ffrio
- 1 llwy de o fenyn
- ½ winwnsyn gwyn mawr
- 5/6 clof o arlleg
- twb o gaws mascarpone
- 1 ciwb o stoc jeli cyw iâr
- 1 llwy de o arlleg sych
- 10 llwy fwrdd o hufen dwbwl
- halen a phupur
- 3 llwy fwrdd o gaws parmesan wedi'i gratio
- 6 llwy fwrdd o friwsion bara panko
- 3 llwy fwrdd o bersli ffres 'di'i dorri'n fân
- pasta sych
Dull
- I baratoi y ddau biwrî, berwch y blodfresych a'r cabaets gwyn nes eu bod yn feddal a defnyddio cymysgydd llaw i greu piwrî llyfn gydag ychydig o'r dŵr berw. Fe allwch chi rewi'r piwrî (mewn blwch ciwbiau iâ) a'u hychwanegu'n syth i'r saws garlleg.
- Berwch lond sosban o ddŵr gyda digon o halen.
- Torrwch y braster oddi ar y bacwn a thorri'r cig a'r braster yn fân. Mewn sosban, ffrïwch y bacwn nes bod y cyfan yn grensiog. Rhowch y bacwn o'r neilltu ond cadwch yr olew i ffrio'r llysiau. Ychwanegwch y menyn, a ffrio'r winwnsyn wedi'i dorri'n fân neu wedi gratio ar wres isel gydag ychydig o halen nes ei fod yn feddal (tua 5 munud). Ychwanegwch dri chwarter y garlleg wedi'i gratio gan gadw chwarter yn ôl.
- Ar ôl 1–2 funud ychwanegwch y caws mascarpone – dyma fwyd y duwiau – nes bod y caws yn toddi, yna'r stoc jeli.
- Nawr ychwanegwch y pwrî blodfresych a chabaets gwyn, gweddill y garlleg ac 1 llwy de o arlleg sych (mae garlleg wrth wraidd y rysáit hon!).
- Dewch â'r cyfan i'r berw ac ychwanegu'r hufen dwbwl oer. Sesnwch gyda halen a phupur fel y dymunwch, ychwanegu'r caws Parmesan a diffodd y gwres.
- Mae'r saws yn barod nawr ac fe fydd yn tewhau wrth iddo sefyll.
- Coginiwch eich hoff basta nes ei fod yn al dente a chadw llond cwpan o ddŵr hallt, startslyd y pasta. Mewn ffreipan ar wahân, cynheswch lond llwy fwrdd o olew ac ychwanegu'r briwsion bara (mae unrhyw friwsion yn iawn ond dewisais i'r rhain am eu bod yn fwy crensiog). Daliwch ati i'w troi ac unwaith maen nhw'n euraidd trowch y gwres bant, torrwch y bacwn crensiog yn fân iawn a'i ychwanegu i'r briwsion bara a'r persli, rhowch y persli a'r bacwn wedi'i ffrio i mewn.
- Ychwanegwch y pasta sydd wedi'i goginio gan ddefnyddio dŵr y pasta i lacio ychydig ar y saws. Gweinwch gyda'r briwsion bara a'r bacwn a mwynhewch!
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey