Wrap wy
Cynhwysion
- llond llaw o fadarch porcini sych
- 250ml o ddŵr
- 2 lond llaw o fadarch cymysg
- olew
- 2 lwy fwrdd o gaws hufennog
- llond llaw o sbinaets ifanc
- halen a phupur
- 3 wy, wedi'u curo
- persli ffres
Dull
- Mwydwch y madarch sych mewn llond mẁg o ddŵr a gadael iddyn nhw drwytho am 10 munud.
- Unwaith iddyn nhw feddalu, tynnwch y madarch allan a'u torri nhw'n fân, gan gadw dŵr y madarch.
- Torrwch y madarch ffres. Cynheswch ychydig o olew mewn ffreipan fach a ffrio'r madarch ffres ar wres canolig.
- Unwaith iddyn nhw goginio, ychwanegwch y madarch wedi'u hydradu a'u torri'n fân ynghyd â dŵr y madarch a'u coginio ar wres uchel nes bod yr hylif wedi lleihau i'r hanner.
- Yna ychwanegwch y caws hufennog a'r sbinaets wedi'i dorri a'i sesno gyda halen a phupur fel y dymunwch. Tynnwch e oddi ar y gwres a'i roi o'r neilltu i oeri ychydig.
- Torrwch yr wyau i mewn i fowlen a'u curo a sesno gyda halen a phupur. Mewn ffreipan fach ychwanegwch ychydig o olew, gan wneud yn siŵr i chi iro'r ffreipan yn iawn, a'i rhoi ar wres isel.
- Ychwanegwch yr wyau a'u twymo'n araf, a rhowch y caead ar ben y ffreipan i greu wrap o'r wy. Ychwanegwch ychydig o'r llenwad a phlygu'r wy drosodd.
- Yn ofalus, defnyddiwch sbatwla i symud yr wy i blât ar gyfer ei weini. Addurnwch gyda phersli ffres.
Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).
Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)
Instagram: @colleen_ramsey
Twitter: @_C_Ramsey