S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Tsili chunky cig eidion Cymru

Cynhwysion

  • 400g o giwbiau brwysio cig eidion Cymru, wedi trimio'r braster
  • 1 llwy fwrdd o olew
  • 1 nionyn wedi'i bilio a'i dorri'n ddarnau.
  • 1 tsili coch, heb hadau ac wedi'i sleisio
  • 2 ewin garlleg
  • 1 pupur coch, heb hadau ac wedi'i dorri'n giwbiau.
  • 1 pupur melyn, heb hadau ac wedi'I torri'n giwbiau.
  • 400g o domatos tun wedi'u torri
  • 400g o ffa coch tun, wedi'u draenio a'u golchi
  • 150ml o bassata
  • 150ml o stoc cig eidion
  • 2 lwy de o bowdwr tsili mwyn.
  • 2 domato ffres, wedi'u deisio
  • 1 pupryn gwyrdd, heb hadau ac wedi'i ddeisio
  • 1 shibwnsyn, wedi'i sleisio
  • dyrnaid o goriander ffres, wedi'i dorri
  • hufen sur i weini

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180°c | 160°c Ffan | Nwy 4 neu cynheswch yr cwcer araf.
  2. Cynheswch yr olew mewn pot caserol mawr a all wrthsefyll gwres y ffwrn a browniwch y cig ar bob ochr, neu defnyddio padell ffrio.
  3. Ychwanegwch y nionyn, y tsili a'r garlleg, a'u ffrio am ychydig.
  4. Ychwanegwch weddill y cynhwysion (heblaw am gynhwysion y salsa) a'u troi a'u cyfuno'n dda.
  5. Rhowch mewn ffwrn sydd wedi'i chynhesu ymlaen llaw am 2-2½ awr nes bod y cig yn frau neu yn yr cwcer araf ar wres isel am 5-6 awr nes fod yr cig yn frau.
  6. Gweinwch mewn powlenni gyda reis, neu daten bob, salsa tomato a thalpiau o hufen sur.

Rysáit gan Elwen Roberts / Hybu Cig Cymru, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?