S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Colleen Ramsey

    Colleen Ramsey

    calendar Dydd Mawrth, 24 Ionawr 2023

  • Polpette fantastiche!

    Cynhwysion
    (Digon i 8-10 neu 2 ran)

    • olew olewydd
    • 1 winwnsyn wedi'i dorri'n fras
    • 1 foronen
    • teim – 5 coesyn, gan dynnu'r dail a'u torri
    • 2 giwb o stoc cig eidion
    • 750ml o ddŵr berw
    • 2 ddeilen lawryf
    • jar 690g o passata
    • 2 lwy fwrdd o besto tomato heulsych
    • 2 lwy fwrdd o biwrî tomato
    • 2 lwy fwrdd o siwgr
    • cwpan o friwsion bara
    • ½ mẁg o laeth
    • 2 ewin garlleg
    • 2 wy mawr (1 ar gyfer creu'r peli cig)
    • 70g o gaws parmesan wedi'i gratio'n fân
    • cig selsig o 4 selsigen cig moch
    • 1kg o fins cig eidion braster uchel
    • llond llaw o bersli wedi'i dorri'n fân
    • llond llaw o fasil wedi'i dorri'n fân
    • halen a phupur

    Dull

    1. Dechreuwch gyda'r saws tomato. Mae hwn yn saws melys syml i gyd-fynd â'r peli cig sawrus.
    2. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr. Taflwch y winwnsyn a'r moron wedi'u torri'n fras i mewn a'u coginio am ychydig funudau. Rhowch y ciwb o stoc yn y dŵr berw. Yna ychwanegwch hwn, ynghyd â holl gynhwysion y saws sy'n weddill, i'r sosban. Unwaith y bydd y cyfan yn berwi trowch y gwres i lawr nes bod y saws yn mudferwi. Mudferwch nes fod y winwns a'r moron yn ddigon meddal i'w hylifo.
    3. Tra bod y saws yn mudferwi, mewn bowlen cyfunwch y briwsion bara gyda'r llaeth a gadael iddyn nhw fwydo am ychydig funudau. Yna ychwanegwch y garlleg, yr wy, y caws Parmesan, y cig, y persli a'r basil a sesno'n dda gyda halen a phupur.
    4. Cymysgwch y cyfan â'ch dwylo am ychydig funudau, ond ddim yn rhy hir rhag gwneud y peli cig yn galed.
    5. Chwistrellwch yr olew ar hyd y tun pobi a chreu peli tua'r un maint ag wy mawr. Chwistrellwch y peli ag olew ac yna eu brownio o dan gril poeth am tua 10 munud.
    6. Tra eu bod yn brownio fe allwch dynnu y teim a'r dail llawryf a hylifo'r saws tomato gyda chymysgydd llaw nes ei fod yn llyfn, ac yna ei roi yn ôl ar wres uchel i leihau ychydig.
    7. Pan fydd y peli cig wedi brownio'n braf, tynnwch nhw allan o'r ffwrn a'u rhoi yn y saws am 35–40 munud ar wres isel gyda chlawr ar eu pennau.
    8. Coginiwch y pasta (dwi'n argymell pappardelle neu sbageti) mewn dŵr hallt, nes ei fod yn al dente . Draeniwch gan gadw llond mẁg o'r dŵr pasta. Rhowch y pasta wedi'i ddraenio yn ôl yn y sosban gynnes wag.
    9. Blaswch y saws ac ychwanegu mwy o halen a phupur os oes angen. Rhowch y saws ar ben y pasta ynghyd â sblash o ddŵr y pasta a chymysgu nes bod y pasta wedi amsugno'r saws ac wedi ei orchuddio ganddo.
    10. Gweinwch gylch braf o basta gyda chymaint o beli cig perffaith ar ei ben ag y'ch chi moyn.
    11. Buon appetito, amici.

    Rysaít gan Colleen Ramsey (Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd).

    Llyfr Colleen: Bywyd a Bwyd / Enjoying Life through Food (Y Lolfa)

    Instagram: @colleen_ramsey

    Twitter: @_C_Ramsey

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?