S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cysylltu â Ni

Cyhoeddi cywiriadau, ymddiheuriadau a phenderfyniadau yn dilyn cŵyn

Mae'r dudalen hon yn cynnwys, lle mae'n briodol i'w cyhoeddi:

  • Cywiriadau ac ymddiheuriadau mewn ymateb i gwynion a dderbynnir gan S4C
  • Penderfyniadau gan Banel Cwynion Bwrdd S4C.
  • Cywiriad: Newyddion S4C

    24 Ebrill 2025

    Mewn adroddiad am ddyfarniad Y Goruchaf Lys Prydeinig yn effeithio ar fywydau bobl trawryweddol roedd rhai o'r is-deitlau Saesneg ymddangosodd ar y sgrin yn anghywir, gan olygu bod y rhywedd a rhagenw anghywir wedi eu defnyddio bedair gwaith.

    Mae Red Bee, y cmwni wnaeth gyflenwi yr is-deitlau, wedi ein sicrhau bod ganddyn nhw bolisi clir sy'n datgan y bydd eu his-deitlau bob amser yn adlewyrchu y rhywedd a rhagenw mae'r person yn ei ddefnyddio. Er hyn, mae'n nhw'n cydnbaod na wnaeth hyn ddigwydd ar yr achlysur hwn ac o achos gwall dynol roedd yr is-deitlau gyfieithwyd yn anghywir. Mae Red Bee hefyd wedi ymddiheuro ac yn cymryd camau ar unwaith i sicrhau na all sefyllfa debyg ddigwydd eto.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?