S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cysylltu â Ni

Cywiriadau: Eisteddfod Genedlaethol Cymru

Ar 11 Awst 2022, mi gafodd erthygl a fideo digidol eu cyhoeddi ar wefan

Ar ôl adolygu ein hallbwn, rydym yn cydnabod na wnaeth ein hallbwn fodloni ein safonau golygyddol o ran cywirdeb, didueddrwydd a thegwch.

Yn benodol, hoffem wneud y canlynol yn glir:

  • Dim ond un cyfrannwr gafodd ei gynnwys yn yr allbwn yn cwyno fod siopau'r dref yn wag. Chafodd cyfweliad arall oedd yn rhoi ochr arall i'r stori mo'i gynnwys.
  • Doedd dim tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r honiad fod yr Eisteddfod Genedlaethol, a'i Phrif Weithredwr, yn wastraffus o ran gwariant. Doedd dim tystiolaeth chwaith fod Yr Eisteddfod, na'r Prif Weithredwr, wedi cael ymateb i'r honiadau yma.
  • Y dylid bod wedi rhoi mwy o amser a manylion i'r Eisteddfod allu cynnig hawl i ymateb.
  • Y dylid bod wedi cymryd gofal rhesymol i fodloni ein hunain o'r holl ffeithiau arwyddocaol a bod yr hyn a gafodd ei hepgor wedi bod yn annheg i Brif Weithredwr yr Eisteddfod ac i'r Eisteddfod fel sefydliad.

Rydym yn cydnabod y pwyntiau hyn ac yn ymddiheuro am y methiannau yn ein safonau golygyddol ac mae S4C wedi tynnu ei hadroddiadau yn ôl.

23/11/2022

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?