S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Awyr Iach - Cyfres Newydd

Mae Boom Plant yn chwilio am blant i gymryd rhan mewn cyfres deledu newydd sbon i Cyw - os oes gennych chi blentyn sydd wrth ei fodd yn treulio amser yn yr awyr agored cysylltwch â ni!

Efallai bod eich plentyn yn mwynhau mynd am dro, gwersylla neu ferlota neu wrth ei fodd yn chwilota am drychfilod, gwylio adar neu hel mafon?Rhowch wybod i ni drwy ebostio cyw@s4c.cymru.

Rydym yn annog yn arbennig geisiadau gan y rhai sy'n cael eu tangynrychioli, gan gynnwys plant ifanc anabl a phlant o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME).

Bydd Boom Cymru yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â pholisi preifatrwydd y cwmni - mwy o fanylion yma 👉https://www.boomcymru.co.uk/hysbysiad-preifatrwydd-boom-tv…/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?