S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Bisgedi Sinsir Nadolig

Bisgedi sinsir blasus ydy her heddiw... ond Jack neu Cadi fydd y pobydd Nadolig gorau?

Bisgedi Sinsir Nadolig

5 llwy fwrdd o ddŵr

210gr o Siwgwr Brown

3 llwy fwrdd o Triog Tywyll

3 llwy fwrdd o Triog euraidd.

3 llwy fwrdd o Sinamon Mân

3 llwy fwrdd o Sinsir Mân

250gr o fenyn Hallt

1 llwy dê o Soda Bicarb

560gr o Flawd Plaen

Rhowch y cynhwysion i gyd ar wahan i'r menyn a'r blawd mewn sosban trwm a dewch a fe i bwynt berw. Gofynnwch i oedolyn helpu chi gyda hyn. Pan yn berwi tynnwch y sosban oddi ar y gwres a gan ddefnyddio llwy bren cymysgwch y menyn gyda'r gymysgedd.

Pan mae rhain wedi'i cymysgu ychwanegwch y soda a chwisgiwch drwy'r gymysgedd ond peidiwch gor-gymysu.

Arllwyswch y gymysgedd mewn powlen a gadewch i oeri.

Wedi i'r gymysgedd oeri hidlwch y blawd i fewn i'r gymysgedd a dechreuwch gymysgu y cynhwysion yn araf. Unwiath bydd y gymysgedd yn ffurfio toes lapiwch mewn ffilm a gosodwch yn yr oergell dros nos.

Ar ôl i'r toes oeri gosodwch ar y ford wedi'i orchuddio gydag ychydig o flawd. Rholiwch y toes i fod yn 1cm o drwch. Defnyddiwch torwyr siapiau i dori siapiau gwahanol. Mae'n syniad gosod y siapiau yn agos fel eich bod yn cael cymaint o siapiau a phosib allan o'r darn cyntaf.

Gosodwch y siapiau ar din pobi wedi'i baratoi gyda phapur iro ('baking paper'). Rhowch y tin pobi yn yr oergell am hanner awr cyn ei roi yn y ffwrn 200c am 8 munud. Codwch oddi ar y tin a'i osod ar rac oeri iddyn nhw galedu.

Defnyddiwch eisin a sprinkles i addurno.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?