S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Tendrau

Gwahoddiad i dendro ar gyfer darpariaeth/trwydded i Offer Rheoli Cynnwys Ar-lein

Mae S4C yn dymuno penodi cwmni i ddarparu a/neu drwyddedu platfform/offer/meddalwedd ar gyfer darparu swyddogaethau cipio fideo ar-lein, ffrydio'n fyw a chyhoeddi cynnwys ac archifo ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r tendr wedi ei hysbysebu ar sell2wales.gov.wales. Gweler y dogfennau isod am ragor o wybodaeth. Rhaid i bob busnes sydd â diddordeb mewn darparu'r gwasanaethau gwblhau ymateb tendr yn y ffurf a osodir isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyfleu'r ymateb tendr i S4C yw canol dydd, 14/10/2020.

Dylid cyfeirio pob cais am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr hwn a/neu'r broses dendro hon at: tendr@s4c.cymru Sylwer, os gwelwch yn dda, na ddylid anfon unrhyw ymholiad na chais am wybodaeth ynglŷn â'r broses dendro at unrhyw swyddog, gweithiwr na chynrychiolydd unigol yn S4C.

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau am wybodaeth a/neu arweiniad pellach ar sut i gwblhau'r tendr yw canol dydd, 28/9/2020

Atebion i gwestiynau 1-10-2020
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?