S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Siôn - Llyn Clywedog

Manylion:

Hyd: 2 awr a hanner

Pellter: 4.5 milltir

Dechrau: SN 949 874

Diwedd: SN 911 869

Parcio: Gallwch barcio car ar ddechrau'r daith: Teras y Fan, Llanidloes, SY18 6NW, neu ar ddiwedd y daith: Llyn Clywedog, Llanidloes, Powys, SY18 6NZ

Disgrifiad:

Mae'r daith yn dechrau ar Deras y Fan (A). Cerddwch ar hyd y teras tua'r gorllewin ac ar ôl tua 700 metr trowch i'r chwith i gerdded lawr lôn at ffarm Manledd Uchaf. Dilynwch y llwybr cyhoeddus drwy'r ffarm, ac ar ôl hanner milltir, cymerwch chwith siarp i gerdded ar lwybr cyhoeddus arall tua'r de orllewin. Parhewch ar y llwybr, drwy ffarm Penclun, a fyddwch yn dod allan ar yr heol.

Croeswch yr heol ac ymunwch â Ffordd Glyndŵr (B) tua'r Gorllewin. Dilynwch Ffordd Glyndŵr am ychydig dros 1 cilometr. Byddwch yn cyrraedd adfeilion Bryntail (C). Ar ôl ymweld â'r hen mwynglawdd plwm, parhewch i ddilyn y llwybr ar draws yr afon, a dilynwch yr heol er mwyn cyrraedd top argae Llyn Clywedog (Ch), lle fydd man terfyn y daith.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

A) Teras y Fan

Cyfeirnod Grid: SN 949 874

Cafodd y tai teras yma eu hadeiladu'n bwrbasol ar gyfer gweithwyr y gwaith plwm lleol, sef gwaith plwm mwya'r byd yn y 19eg Ganrif.

B) Ffordd Glyndŵr

Cyfeirnod Grid: SN 920 872

Mae Ffordd Glyndŵr yn ymestyn ar draws 135 milltir, sy'n dechrau yn Tref-y-Clawdd ac yn gorffen yn y Trallwng.

C) Mwynglawdd Plwm Bryntail

Cyfeirnod Grid: SN 915 869

Caeodd Bryntail ym 1884 wrth i ffyniant y mwyngloddio lleol ddod i ben. Ymhlith yr olion sy'n parhau mae tai mathru, biniau mwynau, ffyrnau chwilboeth, gefail a swyddfa rheolwr y mwynglawdd.

Ch) Llyn Clywedog

Cyfeirnod Grid: SN 91209 87008

Cronfa a grëwyd gan ddyn yw'r Llyn Clywedog a ffurfiwyd wrth adeiladu Argae Clywedog. Mae gan y llyn arwynebedd o 615 erw, mae'n 216 troedfedd o ddyfnder ar ei ddyfnder mwyaf ac mae'n ymestyn ryw chwe milltir.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?