S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Taith Huw

Hyd: 1 awr 15 munud

Pellter: 3 milltir / 5 cilometr

Dechrau: SJ 295 466

Diwedd: SJ 265 452

Parcio: Mae yna faes parcio ar ddechrau'r daith, ar waelod Lôn yr Ysgol, Ponciau, LL14 1RP. Does yna ddim maes parcio swyddogol ger diwedd y daith, ond digon o le ar ochr yr heol ar Stryd Capel, Penycae, LL14 2RF.

Disgrifiad:

Mae'r daith yma'n un syth. Mae yna le i barcio ger dechrau'r daith ac yn ddigon agos at ddiwedd y daith.

Mae'r daith yn dechrau ger mynedfa ogleddol Parc y Ponciau (A). Cerddwch yn syth drwy'r parc tuag at gyfeiriad y De, ac ar ôl tua 200 medr, trowch i'r dde, a cherddwch drwy Gerrig yr Orsedd (B). Parhewch i gerdded tua'r Gorllewin, a dewch allan o Barc y Ponciau (A) ar Broad St. Parhewch i gerdded yn yr un cyfeiriad, ac fe welwch Y Stiwt (C) ar eich dde.

Pan gyrhaeddwch y cylchdro bach, trowch i'r chwith, a pharhewch yn syth am 250 medr. Fe welwch droad siarp i'r dde, trowch fan hyn a dilynwch Heol yr Afon, heibio'r capel, gan ddilyn yr heol o gwmpas i'r chwith, ac yna i'r dde ar Heol Caradoc.

Cerddwch yr holl ffordd i waelod Heol Caradoc, a cyn i chi gyrraedd gatiau ysgol I D Hooson, ymunwch â'r llwybr droed i'r dde. Unwaith i chi ymuno â'r llwybr, trowch i'r chwith a cherddwch am 100 medr. Yna, trowch i'r chwith i ymuno â llwybr droed wahanol tua chyfeiriad y De.

Parhewch i gerdded yn syth ar y llwybr yma, ac fe ddewch chi allan ar Stryr-Issa. Trowch i'r dde, heibio mynedfa'r clwb rygbi, a chymerwch y chwith nesa i ymuno'r llwybr droed.

Dilynwch y llwybr droed yma tu ôl i'r tai, gan gadw i'r chwith pan mae'r llwybr yn gwahanu'n ddau. Byddwch yn dod allan ar Ffordd y Poplys ym Mhenycae. Trowch i'r dde, a dilynwch yr heol o gwmpas am ychydig, yna trowch i'r dde i gerdded lan Stryt yr Allt. Wrth i chi fynd heibio Fferm Pentre' ar eich chwith, ewch yn syth i'r cae gan ddilyn arwyddion y llwybr cyhoeddus, yn hytrach na dilyn yr heol o gwmpas i'r dde.

Dilynwch y llwybr cyhoeddus ar draws y caeau, yn ofalus, gan gau unrhyw gât tu ôl i chi.

Byddwch yn dod allan ar Stryd y Bont. Trowch i'r dde ar yr heol, a chymerwch y chwith cyntaf. Cerddwch ar y lôn heibio Ffarm Drefechan, a dilynwch y lôn mor bell a gallwch heb fynd yn rhy agos i'r gronfa gan nid oed mynediad i'r cyhoedd. Dyma le mae'r daith yn gorffen, yn edrych dros Gronfeydd Pen-y-cae (Ch) o bellter diogel.

Er mwyn cyrraedd y man parcio ger diwedd y daith, cerddwch nôl heibio Ffarm Trefechan, trowch i'r chwith ar Stryd y Bont a cherddwch yr holl ffordd lawr at Stryd y Capel, Penycae.

Pwyntiau o Ddiddordeb:

a) Parc y Ponciau

Cyfeirnod Grid: SJ 295 466

Mae'r safle yma yn sefyll ar hen gwaith glo. Cafodd ei adnewyddu gan grwp o wirfoddolwyr, Cyfeillion Parc y Ponciau. Ar ôl gwneud cynnig llwyddiannus i Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ailagorwyd Parc y Ponciau'n swyddogol ar ôl gwaith ailwampio helaeth ym mis Mehefin 2009.

b) Cerrig yr Orsedd

Cyfeirnod Grid: SJ 293 464

Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn Rhosllannerchrugog ym 1945. Fe wnaeth yr Eisteddfod parhau bob blwyddyn yn ystod yr ail ryfel byd. Mae yna stori am bobl o'r gymuned yn sefyll o gwmpas y cerrig yma pan gyhoeddwyd fod y rhyfel wedi gorffen.

c) Y Stiwt

Cyfeirnod Grid: SJ 292 465

Enw arall am Y Stiwt yw Plas Mwynwyr Rhos. Agorwyd ym 1926 yr un flwyddyn a'r streic gyffredinol, a rhoddwyd Cymdeithas Lles y Glowyr £20,000 tuag at yr adeiladu. Roedd y glowyr yn cyfrannu 20c yr wythnos o'I gyflogau I gynnal Y Stiwt o ddydd I ddydd.

Ch) Cronfeydd Pen-y-Cae

Cyfeirnod Grid: SJ 269 455

Mae yna ddau gronfa fan hyn, uchaf sy'n 7 erw, a isaf sy'n 5 erw. Mae'r cronfeydd yma yn cyflenwi dŵr i Ben-y-Cae ac i Rhosllannerchrugog.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?