S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Pwyllgorau'r Bwrdd

Mae gan Fwrdd S4C pwyllgorau sy'n goruchwylio gwahanol agweddau o waith S4C. Mae ganddo hefyd fwrdd cyfarwyddwyr ar gyfer cwmnïau masnachol S4C.

Mae'r pwyllgorau'n adrodd yn ôl yn rheolaidd i'r Bwrdd, gyda'r Bwrdd yn cymeradwyo argymhellion y pwyllgorau.

Mae gan Gadeirydd y Bwrdd yr hawl i fynd i gyfarfodydd y pwyllgorau fel sylwebydd.

  • Pwyllgor Archwilio a Risg

    Mae'r Pwyllgor Archwilio a Risg yn cefnogi'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr (fel Swyddog Cyfrifo S4C) mewn perthynas â threfniadau rheolaeth fewnol a sicrwydd y sefydliad. Mae'n atebol i'r Bwrdd.

  • Panel Cwynion

    Mae gan y Panel Cwynion swyddogaeth yn unol â Phroses Gwynion S4C i ystyried cwynion yn ymwneud â materion cydymffurfiaeth neu reoleiddio mewn perthynas â chynnwys S4C, neu gwynion yn ymwneud â materion eraill pan fydd y cwynwyr am gyflwyno apêl yn erbyn penderfyniad y Prif Weithredwr.

  • Y Pwyllgor Taliadau

    Ar ran y Bwrdd, mae'r Pwyllgor Taliadau yn monitro perfformiad uwch-swyddogion S4C ac yn cymeradwyo eu cyflogau, a thelerau eraill eu cyflogaeth. Mae hefyd yn goruchwylio trefniadau cyffredinol ar gyfer cyflogau staff S4C, ac yn monitro effeithiolrwydd y trefniadau hynny.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?