S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Tiramisu oren sbeislyd

Cynhwysion

  • 500g cwstard
  • 250g twb caws mascarpone
  • 2 oren fawr
  • 200g bysedd sbwng (24)
  • 100ml gwirod amaretto, hufen neu goffi
  • 200ml coffi
  • 300ml hufen dwbl
  • 1 llwy fwrdd powdwr coco
  • ½ llwy de o sbeisys cymysg
  • darnau oren sych i addurno

Dull

  1. Mewn bowlen chwipiwch y mascarpone a chwstard nes mae'n esmwyth.
  2. Gafaelwch yn oren, yna torrwch y croen bant a thorrwch mewn i ddarnau.
  3. Gosodwch allan y bysedd sbwng mewn bas. Cymysgwch y coffi gyda'r gwirod mewn jwg cyn arllwys dros y bysedd sbwng a gadael i socian am 5 munud, trowch unwaith gyda llwy.
  4. Gosodwch hanner y bysedd sbwng yn y bowlen treiffl yna arllwyswch hanner y cwstard. Yna rhowch weddill y bysedd ar ben yr hufen cyn arllwys gydag arwyneb o gwstard.
  5. Chwipiwch yr hufen nes mae'n meddalu yna gallwch arllwys dros y cwstard.
  6. Cymysgwch y coco a sbeis cymysg at ei gilydd a hidlwch dros yr hufen. Addurnwch efo darnau o oren sych neu siocled wedi'i gratio.

Rysáit gan Nerys Howell, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?