S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

Cacen clementin ac almwn

Cynhwysion

  • 4 clementin
  • 4 ŵy
  • 165g siwgr brown
  • croen 2 lemwn
  • 165g almwnau
  • 2 llwy de blawd pobi
  • clementins caramel
  • 8 darn clementin
  • 150g siwgr castir

Dull

  1. Golchwch y clementinau.
  2. Gosodwch yn sosban a'i gorchuddio efo dŵr.
  3. Codwch i berw bwynt yna gadwch mudferwch (simmer) am 40 munud.
  4. Dylai'r ffrwyth fod yn feddal.
  5. Tynnwch allan y clementinau a gadwch i oeri.
  6. Torrwch nhw mewn hanner a gwaredwch unrhyw hadau.
  7. Gosodwch y clementinau i gyd mewn prosesydd bwyd a chymysgwch nes mae'n esmwyth.
  8. Cynheswch y ffwrn i 170°c / Nwy 5. Seimiwch dun pobi efo papur pobi.
  9. Mewn bowlen cymysgu, chwipiwch yr ŵyau, siwgr a lemwn nes iddyn nhw gymysgu'n dda.
  10. Yna gosodwch mewn yr almwnau, blawd pobi a phiwrî clementin.
  11. Gosodwch ar dun pobi a phobwch am 40 munud.

I wneud y clementins caramel:

  1. Rhowch y siwgr a 100ml o dŵr mewn i sosban.
  2. Cynheswch yn ofalus i doddi'r siwgr, yna cynyddwch y tymheredd nes i'r dŵr throi'n lliw caramel tywyll.
  3. Yn araf bach, ychwanegwch 150ml o ddŵr oer i'r surop siwgr.
  4. Trowch efo llwy bren i sicrhau bod y caramel a'r dŵr yn cymysgu.
  5. Ychwanegwch y clementinau a gostyngwch y gwres.
  6. Gadwch am 2 awr.
  7. Platiwch y gacen efo clementinau ffres a hufen.

Rysáit gan Catrin Thomas, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?