S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Beca Lyne-Pirkis

    Beca Lyne-Pirkis

    calendar Dydd Llun, 04 Ebrill 2022

  • Pasta pobi llysieuol

    Cynhwysion

    • 130g pasta gwenith llawn
    • 1 llwy de olew olewydd
    • 400g tin tomatos wedi'u torri
    • 1 llwy fwrdd piwrî tomatos
    • 1 nionyn canolig, wedi sleisio'n fan
    • 1 pupur melyn, wedi sleisio'n fan
    • 120g corbwmpen (courgettes canolig), wedi sleisio'n fan
    • 3 clof garlleg, wedi torri'n fan
    • 80g madarch, wedi glanhau a sleisio
    • 2 coes seleri , wedi sleisio'n fan
    • 30g caws mozzarella, wedi torri mewn i giwbiau 1cm
    • 25g caws hanner braster, gratio

    Dull

    1. Paratowch y llysiau fel soniwyd uchod, yna mewn sosban fawr, cynheswch yr olew dros wres canolig.
    2. Ychwanegwch y nionyn, pupur, corbwmpen a seleri i'r sosban, trowch bob hyn a hyn a choginio tan yn feddal – 8-10 munud. Ychwanegwch y garlleg a'r madarch a pharau i goginio am 3-5 munud arall. Ychwanegwch y piwrî tomato, cymysgu a choginio am ychydig funudau cyn ychwanegu'r pasta, tin tomatos a thin llawn o ddŵr. Rhowch flas i'r gymysgedd drwy ychwanegu halen a phupur, dewch a'r cyfan i ferwi a mudferwi am 5 munud.
    3. Yn y cyfamser cynheswch y popty o flaen amser i 180c ffan, torrwch y mozzarella yn giwbiau a gratiwch y caws.
    4. Rhowch y gymysgedd pasta mewn dysgl popty, ei orchuddio a phobi yn y popty am 15-20 munud.
    5. Ar ôl yr amser yma, dotiwch y mozzarella dros y popty a gwasgarwch y caws wedi gratio drosto. Rhowch y ddysgl yn ôl yn y popty a phobi am 10 munud ychwanegol. Gwiriwch fod y pasta wedi coginio cyn ei weini.

    Rysaít gan Beca Lyne-Pirkis ar gyfer FFIT Cymru.

    Am fwy gan FFIT Cymru, ewch i ffit.cymru

    Instagram Beca: @becalynepirkis

    Instagram FFIT Cymru: @ffitcymru

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?