Cig oen crisp gyda feta, caprys a mint
Cynhwysion
- 1 brest cig oen
- 200g tatws newydd
- 25g mint sych
- 100g ffa gwyrdd
- 100g feta Sir Fôn
- 50g caprys
- 50g mint ffres
Dull
- Cynheswch y ffwrn i 150°c.
- Gosodwch y tatws newydd yng nghanol dysgl rostio ddwfn.
- Gosodwch y cig oen ar ben y tatws, yna gorchuddiwch efo'r mint sych. Yna ychwanegwch sesnin (halen a phupur).
- Gorchuddiwch y ddysgl gyda ffoil, yna pobwch am 3 awr.
- Ar ôl 3 awr trowch dymheredd y ffwrn i fyny i 180°c, gwaredwch y ffoil a phobwch am 15 munud arall.
- Unwaith i'r cig oen coginio, tynnwch allan y ffwrn a gadwch ar blât.
- Berwch y ffa gwyrdd mewn dŵr hallt. Unwaith maent wedi coginio, ychwanegwch ar ben y tatws ar waelod y ddysgl pobi. Yna adiwch y caprys, mint ffres a chaws feta.
- Cymysgwch yn drylwyr a gweinwch efo darnau o'r frest cig oen.
Rysáit gan Dan ap Geraint, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.