S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cegin S4C

  • Lisa Fearn

    calendar Dydd Gwener, 14 Hydref 2022

  • Tarten "pobi dall"

    Cynhwysion

    • 3 ŵy
    • 85g siwgr castir
    • 175g menyn dihalen
    • 100g pecyn almonau
    • sudd 1 lemwn
    • 1 cas crwst (pastry case)
    • aeron

    Dull

    Tymheredd ffwrn - 220°c | Ffan 200°c | Nwy 7

    1. Cynheswch y popty i 220°c.
    2. Gan ddefnyddio crwst o'r rysáit crwst melys, leiniwch dun quiche mawr 28cm gyda chrwst.
    3. Pobwch y gragen crwst yn ddall mewn popty canolig a gadewch iddo oeri NEU prynwch gas crwst melys.
    4. Curwch yr wyau a'r siwgr gyda'i gilydd.
    5. Cymysgwch y sudd lemwn, y menyn wedi'i doddi a'r almonau.
    6. Arllwyswch y gymysgedd i'r cas crwst.
    7. Rhowch eich aeron neu ffrwythau eraill yn daclus ar ei ben.
    8. Rhowch ar waelod y popty am 20 munud.
    9. Trowch y gwres i lawr i 160°c a choginiwch nes bod y llenwad yn gadarn ac yn euraidd.
    10. I'w gwneud yn darten bakewell, gorchuddiwch ag eisin gwyn yn rhedeg ac ychwanegu ceirios ar ei ben

    Rysáit gan Lisa Fearn, wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Prynhawn Da.

    Instagram: @lisafearncooks

    Twitter: @lisaannefearn

      Rhannu’r rysáit
      close button

      Rhannu’r rysáit trwy:

      Copio’r ddolen

      copy icon
      Sut i goginio
      Copio
      Wedi’i gopio
    Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?