Mwy o gynnwys pêl-droed i ffans Cymru ar S4C Clic a BBC iPlayer
Mae'n 64 mlynedd ers Cwpan y Byd gyntaf Cymru efo hogia' Jimmy Murphy nôl yn 1958. Er bod rhai enwau fel John Charles dal i fod yn gyfarwydd, pwy sydd wir yn nabod y garfan honno? Geraint Iwan sydd yn ein tywys o amgylch 30 o stadiymau i addysgu ni am Bois '58.
39 mlynedd ers ei chyfansoddi, mae Dafydd Iwan a'r gân Yma o Hyd wedi cyrraedd rhif 1 ag ar ei ffordd i Gwpan y Byd yn Qatar. Rhaglen ddogfen arbennig sydd wedi dilyn taith arbennig Dafydd a'r gân gyda chefnogwyr a chwaraewyr y tîm peldroed cenedlaethol ers y perfformiad cyntaf yn y gêm yn erbyn Awstria nol ar ddechrau'r flwyddyn. Cawn ddysgu am hanes y gân ynghyd a'r siwrne ma'i wedi bod arni dros yr 8 mis diwethaf wrth gyrraedd rhif 1 yn y siartiau.
Yn y gyfres yma y cyn-beldroediwr proffesiynol Owain Tudur Jones fydd yn cwrdd â rhai o wynebau mwyaf amlwg y byd chwaraeon yng Nghymru a thu hwnt. Yn y rhaglen yma y cyn-bêl-droedwraig Gwennan Harries fydd yn cael ei holi'n dwll.
Wedi'r gorfoledd ar ôl i Gymru gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, mae'r cyffro'n cynyddu wrth i Qatar ddod yn nes. Dyma gyfle i ailfyw'r ymgyrch ragbrofol yng nghwmni'r cefnogwr ffraeth, Geraint Iwan. O goliau blêr Kieffer Moore i ganfed cap Gareth Bale, o gemau tu ôl i ddrysau caeedig i'r Wal Goch yn bloeddio Yma o Hyd, o Kazan i Gaerdydd: dyma'r ffordd berffaith i baratoi at ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 2022.
Am wybod sut allwch chi wylio'r pêl-droed ar S4C?
Dilynwch mwy o gynnwys pêl-droed ar gyfryngau cymdeithasol S4C Chwaraeon.