S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cwpan Rygbi'r Byd

Mwy o gynnwys i chi ffans rygbi ar S4C Clic

  • Jonathan: Cwpan y Byd 2023

    Jonathan: Cwpan y Byd 2023

    Gwylio ar S4C Clic

    Ar ddechrau Cwpan Rygbi'r byd, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens a Sarra Elgan wythnos yma wrth iddynt ddychwelyd ar gyfer pennod hwyliog arall o 'Jonathan', wrth i gewri Warren Gatland baratoi i wynebu Fiji. Bydd sgetsys di-ri, sialensiau corfforol a sgwrs gyda dau o enwogion Cymru. Yr wythnos yma, Rhys Priestland a'r gantores Jessica Robinson sy'n twymo'r sofa goch ac yn cystadlu'n frwd wrth fynd Ar y Pyst.

  • Cwpan Rygbi'r Byd Shane ac Ieuan

    Cwpan Rygbi'r Byd Shane ac Ieuan

    Gwylio ar S4C Clic

    Mae cyn-asgellwyr Cymru, Shane Williams ac Ieuan Evans ar 'Road trip' unwaith eto. Y tro yma i Ffrainc, i ymweld â'r dinasoedd fydd yn cynnal gemau Cwpan Rygbi'r byd 2023. Yn y bennod hon fydd y ddau yn ymweld â dinasoedd Lille yn y Gogledd, a Nantes yn y Gorllewin.

  • Clasuron Cwpan y Byd - Seland Newydd v Cymru 2003

    Clasuron Cwpan y Byd - Seland Newydd v Cymru 2003

    Gwylio ar S4C Clic

    Ail-ddarllediad ar drothwy Cwpan Rygbi'r Byd. Pan gyhoeddodd Steve Hansen ei fod am drawsnewid tîm Cymru cyn iddynt wynebu'r Crysau Duon cyn gêm dyngedfenol yng ngrwp D yn Sydney, doedd neb yn disgwyl perfformiad y byddai'n gweddnewid rygbi Cymru am flynyddoedd i ddod.

  • Rygbi Cymru: Y Gêm yn y Gwaed

    Rygbi Cymru: Y Gêm yn y Gwaed

    Gwylio ar S4C Clic

    Mewn cyfres newydd sbon daw mawrion a chefnogwyr rygbi Cymru ynghyd i adrodd hanes tanllyd y gêm o 1875 hyd heddi gyda Syr Gareth Edwards, Ieuan Evans, Shane Williams, Beti George, Sioned Harries a Huw Llywelyn Davies yn rhannu straeon personol am ddylanwad y gamp ar eu bywydau. Bydd sylw i oes aur cyntaf rygbi Cymru gyda buddugoliaeth yn erbyn y Crysau Duon yn 1905 a'r dorf yn canu Mae Hen Wlad fy Nhadau cyn y gêm am y tro cyntaf erioed.

  • DRYCH: Rygbi Byddar a Chwpan y Byd

    DRYCH: Rygbi Byddar a Chwpan y Byd

    Gwylio ar S4C Clic

    Am y tro cyntaf erioed, mae timau rygbi'r dynion a menywod yn cystadlu yn Mhencampwriaeth Rygbi Byddar y Byd yn yr Ariannin. Er iddynt wynebu heriau, ar ac oddi ar y cae, roedd Rygbi Byddar Cymru yn benderfynol o oresgyn yr anawsterau a dychwelyd adref fel Pencampwyr dwbwl Cwpan y Byd.

  • Gemau'r Haf: Cymru v De Affrica

    Gemau'r Haf: Cymru v De Affrica

    Gwylio ar S4C Clic

    Uchafbwyntiau: Cymru sy'n wynebu pencampwyr byd De Affrica yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd fel rhan o Gyfres Haf Vodafone.

  • Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Hoyw, Balch, Caru Rygbi

    Gwylio ar S4C Clic

    Cipolwg gonest ac agored o'r sin rygbi hoyw yng Nghymru.

  • Sut i wylio'r rygbi yn fyw ac am ddim?

    Sut i wylio'r rygbi yn fyw ac am ddim?

    S4C, S4C Clic a BBC iPlayer

    Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.

  • Mwynhewch rhaglenni S4C yn fyw neu gallwch ddal i fyny ar S4C Clic wrth gofrestru am ddim.

    Heb gofrestru eto? Beth am greu eich cyfrif am ddim nawr? Dim ond 2 funud fydd e'n cymryd ac mi fydd yn eich cofio y tro nesaf.

    Ewch i s4c.cymru/clic/MyS4C/SignUp ble mae'n bosib creu cyfrif newydd mewn 2 cam syml.

    1. Yn gyntaf, rhowch eich enw i mewn, gyda'ch cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair.

    2. Wedyn, bydd angen dewis eich iaith, yn ogystal â chytuno â thelerau S4C. Gwasgwch y botwm 'Cofrestru' a chi'n barod i wylio cynnwys ar S4C Clic!

  • S4C Chwaraeon

    S4C Chwaraeon

    Cyfryngau Cymdeithasol

    Dilynwch ni ar Instagram, Twitter a Facebook. Gwyliwch ein cynnwys ar YouTube a TikTok.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?