S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Y Gwyr Dur yn Cryfhau

Mae cyn wythwr y Scarlets a Cymru dan 20 Rory Pitman wedi ymuno a Phencampwyr Principality, Glyn Ebwy. Mae'r blaenwr 26 oed wedi chwarae mewn 28 gem i'r Scarlets yn ystod y ddwy flynedd diwetha a fe yw'r ail chwaraewr amlwg o'r rhanbarthau i ddewis chwarae yn yr Uwch- gynghrair y tymor nesaf yn dilyn penderfyniad Gavin Evans,cyn ganolwr Cymru i ymuno a Chastell Nedd o'r Gleision.

Daeth Pitman sy'n pwyso 118 kg drwy broses datblygu'r Undeb ac fe chwaraeodd i amryw o glybiau'n broffesiynol gan gynnwys Glasgow, Rotherham, Wasps a Chymry Llundain syn symud i'r Scarlets. Chwaraewr arall sydd wedi symud o Barc y Scarlets i Barc Eugene Cross yn ystod yr haf yw'r maswr Josh Lewis.

O blith y garfan enillodd y bencampwriaeth ddiwethaf, mae Jordan Howells wedi arwyddo am bedwerydd tymor gyda Glyn Ebwy ac mae Adam Jones a Nathan Preece hefyd wedi penderfynu aros.

Bydd cyn hyfforddwr Cymru Nigel Davies yn parhau i arwain strwythur hyfforddi'r clwb a bydd ganddo hyfforddwr newydd i'r blaenwyr wrth i Lee Davies ymgymryd a'r rol. Mae Davies yn ymuno a Glyn Ebwy wrth i gyn brop Cymru Ceri Jones symud i'r Dreigiau i gynorthwyo Kingsley Jones. Mae Davies hefyd yn cynorthwyo i hyfforddi carfan Coleg y Cymoedd yn y Cynghrair dan 18.

Oddi ar y cae mae gan y clwb hyrwyddwyr newydd gyda'r cwmni cynhyrchu ceir TVR - bydd yn adeiladu eu ceir newydd yng Nglyn Ebwy - yn cefnogi 'r Gwyr Dur yn eu hymgyrch i ennill y Bencampwriaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?