S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Mark Jones – Hyfforddwr newydd Rygbi Gogledd Cymru

Mae cyn asgellwr Cymru Mark Jones wedi ei apwyntio'n hyfforddwr Rygbi Gogledd Cymru.

Enillodd Jones 47 cap dros ei wlad a bu'n hyfforddwr sgiliau ac ymosod gyda'r Scarlets am bum mlynedd gan helu rhanbarth y Gorllewin gyrraedd gemau ail gyfle'r Pro 12. Ei dasg nawr yw sefydlu rhanbarth y gogledd ymhlith yr 16 o dimau bydd yn cystadlu eleni yn Uwch-Gynghrair newydd Principality.

Yn 2013 fe weithiodd am dymor gyda Rob Howley yn hyfforddi carfan Cymru cyn derbyn swydd gyda chlwb Rotherham. Mae e'n olrhain traed Phil Davies, Chris Horsman, damian McGrath a Clive Griffiths wrth dderbyn yr awennau ym Mharc Eirias.

"Rwyf wrth fy modd i barhau'r gwaith sydd eisoes wedi ei wneud yma ac mae'r cyfle i ddatblygu talentau ifanc yn y gogledd yn gynhyrfus. Mae'n her gan fod safon yr uwch-Gynghrair yn uchel a bydd ein chwaraewyr ni'n gorfod wynebu chwaraewyr proffesiynol ar adegau ond rwy'n gobeithio sefydlu'r Gogledd fel un o dimau cyson y gystadleuaeth."

Mae e'n ymwybodol hefyd o'r angen i ddatblygu a chryfhau'r gwreiddiau rygbi yn yr ardal, "Mae'n holl bwysig ein bod ni'n gweithio'n agos gyda'r clybiau. Fe ddatblygais' i fel chwaraewr o glwb yng nghanolbarth Cymru ac felly rwy'n deall yn iawn y problemau a'r rhwystredigaethau ymarferol - ond mae'n bosib gorchfygu'r rhwystrau hyn er mwyn sicrhau bod chwaraewyr o'r gogledd yn ffynnu.

"Does dim llawer o amser gen i cyn bod y tymor newydd yn cychwyn ond rwy'n gobeithio cael eitha tipyn o ddylanwad yn ystod y misoedd nesa'. Fy mhwyslais i bydd cynyddu'r lefel sgiliau er mwyn gwireddu potensial y chwaraewyr. Rwy'n annog timau i chwarae gem gyflym sy'n plesio'r chwaraewyr a'r gwylwyr ond rwy'n ddigon ymarferol i wybod bod rhaid ennill ambell gem – gan ddibynnu ar yr amodau – trwy bon-braich a chymeriad."

Dywedodd geriant John, Pennaeth Performiad URC, "Mae'n newyddion da bod Mark wedi dychwelyd i'r byd rygbi yng Nghymru ac mai fe fydd yn arwain datblygiad RGC ar y cae. Mae'n gyfnod cyffrous i rygbi yn y Gogledd a bydd cyfraniad Mark yn sicr o gyfoethogi'r profiad i bawb."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?