S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Y Piwma ar gynffon y Ddraig

Byd yr Ariannin yn anelu at gymryd lle Cymru ymysg detholion y byd yn ystod Gemau'r Hydref eleni.

Roedd y Piwmas yn fuddugol yn erbyn De Affrica penwythnos diwethaf ac fe fyddan nhw'n cyfarfod a Chymru yn ystod Tachwedd, er eu bod nhw'n paratoi yr wythnos hon ar gyfer gem anferth yn erbyn y Crysau Duon ym Mhencampwriaeth Rygbi hemisffer y de.

Trwy guro'r Springboks yn Salta o 26 i 24, mae'r Ariannin nawr wedi symud uwchben yr Alban a Ffrainc i'r seithfed safle, gyda'r Gwyddelod yn chweched a'r Cymry'n bumed.

Yn ol y canolwr Matias Orlando, "Da ni wedi bod yn chwilio am fuddugoliaeth fel hon ers talwm a dyna oedd un o'r targedau oedd gennym mewn golwg yn y Bencampwriaeth eleni. Mae'n ganlyniad i waith caled ar y cae ac oddi arno.

"Roedd ein cynllun ar gyfer y gem yn un pendant ac mi fydd ennill yn y modd yma yn atgyfnerthu'r garfan gan fod nifer o'r chwaraewyr wedi gorfod chwarae mewn safleoedd anghyfarwydd."

Cig gosb hwyr gan Santiago Gonzalez Iglesias enillodd y gem er mwyn cofnodi eu buddugoliaeth gyntaf dros De Affrica a dim ond eu hail fuddugoliaeth mewn 24 gem yn y Bencampwriaeth.

Ond y gost i'r Ariannin yw anaf i'w clo Tomas Lavanini bydd yn derbyn llawdriniaeth i'w benglin ac yn methu'r chwe mis nesaf.

Mae amser anodd yn wynebu'r Springboks hefyd gyda dwy egm oddi cartref yn Awstralia a seland newydd yn ystod y pythefnos nesaf.

Bydd yr Ariannin yn chwarae Cymru ar Dachwedd 12fed a De Affrica yn chwarae Cymru ar Dachwedd 26ain, gyda'r ddwy gem yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?