S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

HOWLEY’N CAEL EI ENWI FEL PRIF HYFFORDDWR CYMRU

Mae Undeb Rygbi Cymru yn falch o gefnogi penodiad Warren Gatland fel Prif Hyfforddwr tim Llewod Prydain ac Iwerddon ac hefyn yn falch iawn o gyhoeddi mai Rob Howley fydd yn camu i rôl Prif Hyfforddwr Cymru yn ei absenoldeb.

Cadarnhawyd mewn cynhadledd i'r wasg yng Nghaeredin, mai Gatland fyddai'r Prif Hyfforddwr ar gyfer ail daith y Llewod yn olynol a bydd yn cael secondiad o'i swydd gydag Undeb Rygbi Cymru o Fedi 1, 2016, hyd at ddiwedd taith y Llewod yn 2017.

Howley fydd yn cymryd rôl Prif Hyfforddwr Cymru, gyda chyfrifoldeb llawn am y tîm uwch, ar unwaith a'r her gyntaf ar gyfer cyn-gapten Cymru a'i dîm hyfforddi profiadol yw'r gyfres Under Armour ym mis Tachwedd.

Ymunodd Howley gyda thim hyfforddi Cymru fel Hyfforddwr Cynorthwyol (Ymosod) yn 2008 ac mae wedi arwain Cymru yn y gorffennol yn 2012 ac yn 2013 – y flwyddyn ble daeth Cymru'n bencampwyr y 6 Gwlad RBS o dan ei arweiniad. Ei gêm gyntaf fel Prif Hyfforddwr oedd honno gartref yn erbyn y Barbariaid ym mis Mehefin 2012. Wedi hynny arweiniodd Cymru ar y daith tair-gêm-Brawf i Awstralia yn absenoldeb Gatland oherwydd anaf. Roedd Howley hefyd yn gyfrifol am y ddwy gêm yng nghyfres yr Hydref yn ddiweddarach y flwyddyn honno cyn mynd yn ôl at y rôl ar gyfer ymgyrch lwyddiannus y Chwe Gwlad yn 2013.

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Martyn Phillips: "Hoffem longyfarch Warren ar y penodiad a'r fraint o arwain y Llewod ar gyfer ail daith yn olynol. Mae'r penodiad yn cydnabod awdurdod Warren yn y gêm ac rydym yn falch i gefnogi ei rôl.

"Rydym hefyd yn falch iawn i benodi Rob fel Prif Hyfforddwr Cymru am y cyfnod bydd Warren yn ein gadael. Mae Rob yn hyfforddwr rhyngwladol arbennig iawn ac yn aelod o un o'r timau hyfforddi mwyaf profiadol yn y gêm ryngwladol. Mae gennym hefyd garfan o chwaraewyr hynod ddawnus, a gydag arweinyddiaeth gref rydym yn credu bod y cyfuniad yma'n rhoi sylfaen gadarn i berfformio ar gyfer y tymor sydd i ddod.

"Rydym wedi ystyried ein hopsiynau yn ofalus iawn wrth gynllunio ar gyfer y posibilrwydd hwn ac ryddym yn grediniol mai Rob yw'r penodiad gorau posibl i Gymru.

"Mae profiad a pherthynas Rob gyda'r hyfforddwyr rhanbarthol yn cynnig cyfleoedd i gydweithio fydd yn fanteisiol i'r gêm yng Nghymru.

"Mae cynnig cyfle i hyfforddwyr i barhau i ddatblygu a dysgu yn hanfodol ar gyfer ein llwyddiant yn y dyfodol. Mae'n bwysig bod ganddom griw da o Gymry yn ein tîm hyfforddi a bod unrhywbeth sy'n cael ei ddysgu ar y llwyfan rhyngwladol o fudd i'r gêm yma yng Nghymru.

"Mae'r penodiadau yma'n caniatáu ein hyfforddwyr nid yn unig i ddefnyddio eu profiadau ond i hefyd i barhau i ddatblygu ar y lefel uchaf.

"Rwy'n gwybod Rob yn llawn cyffro ac y bydd yn ffynnu ac yn dysgu o'r profiadau ddaw iddo yn sgil y rôl.

Dywedodd Warren Gatland: "Mae'n fraint cael fy mhenodi fel Prif Hyfforddwr ar gyfer taith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

"Fe wnes i fwynhau'r profiadau 'nôl yn 2009 a 2013 ac rwy'n credu unwaith eto byddaf yn elwa fel hyfforddwr o'r profiad yn 2017.

"Rwy'n ddiolchgar iawn i Undeb Rygbi Cymru am eu cefnogaeth a'u cytundeb i'r rôl.

"Mae penodiad Rob yn newyddion gwych i'r garfan. Mae gennym dîm rheoli profiadol ar waith a gyda phrofiad rhyngwladol Rob fel hyfforddwr a'i awydd i barhau i ddatblygu, bydd y garfan yn fynnu.

Meddai Rob Howley: "Rwy'n hynod falch ac yn gyffrous iawn i gael fy enwi fel Prif Hyfforddwr Cymru ar gyfer y cyfnod hwn.

"Hoffwn longyfarch Warren ar ei ddewis haeddiannol. Mae'n anrhydedd iddo gael ei enwi fel Prif Hyfforddwr y Llewod am yr eildro'n olynol.

"Mwynheais y profiad o fod yn Brif Hyfforddwr yn 2012 a 2013 ac rwy'n edrych ymlaen i dderbyn yr her unwaith eto. Hoffwn ddiolch i Undeb Rygbi Cymru am y cyfle hwn.

"Rydym yn cychwyn gyda phedair gêm gefn-wrth-gefn yng Nghaerdydd gyda'r gem gyntaf yn erbyn Awstralia ar y 5ed o Dachwedd. Nid dim ond Cyfres Under Armour sy'n bwysig i ni wrth gwrs, mae'r safleoedd yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2019 hefyd yn cael eu penderfynu ar ôl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2017, felly mae pob gêm yn hanfodol bwysig i ni wrth edrych ymlaen at y gystadleuaeth. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?