S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

COLEG GWENT YN SICRHAU EU LLE YN Y CWPAN

Dydd Mercher, sicrhaodd Coleg Gwent y lle olaf yng nhgystadleuaeth Cwpan Cyghygrair Dan 18 URC gyda buddugoliaeth 10-0 yn erbyn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd.

Roedd yr amodau yn heriol a dweud y lleiaf pan gyfarfu'r ddau dîm yng Nghanolfan Ragoriaeth Cymru yn Hensol. Nid yr amodau gwlyb a gwyntog yn unig brofodd yn heriol i'r ddau dim. Roedd trin y bêl hefyd yn anodd ar wyneb seimllyd y cae chwarae.

Er mawr clod iddynt roedd y ddau dîm yn ceisio rhedeg y bêl, ond gyda honno'n hynod llithrig, roedd hi'n anodd ei chadw yn y dwylo.

Wedi cic gosb gywrain o droed y maswr Matthew Lewis roedd Coleg Gwent ar y blaen 3 – 0 ar yr egwyl.

Profodd olwyr Yr Eglwys Newydd Will Young, Kane Teear-Bourge a Toby Champ eu hawydd i ymosod a rhedeg o bob ongl yn gyson yn ystod yr ail hanner ond daeth dim o'u hymdrechon wrth i'r ddau dim ei chael hi'n anodd cadw'r bêl yn eu dwylo dan yr amodau heriol.

Parhaodd yr Eglwys Newydd i fod yn y gêm tan y munudau olaf pan giciodd Ruari O'Flynn y bêl ar hyd y cae er mwyn i Lewis ei hadfer yn fedrus a phlymio drosodd am gais yn y gornel. Rhoddodd drosiad cywir O'Flynn ddiwedd ar obeithion Yr Eglwys Newydd.

Dywedodd Pennaeth Rygbi Coleg Gwent, Matthew Jones,: "Buddugoliaeth oedd y peth pwysicaf, gan fod y fuddugoliaeth honno'n rhoi lle i ni yng nghystadleuaeth y Cwpan.

"Roedd pethau'n reit gyfartal tan y funud olaf, a dyna'n union sy'n rhaid ei wneud ar y lefel yma, mae'n rhaid i chi aros yn y gêm ar gyfer y 70 munud llawn. Dwi'n meddwl mae ein amddiffyn cadarn enillodd y gêm i ni, 'roedde ni'n gryf ac heb ildio cymaint o giciau cosb yr wythnos hon - ac roedd ein cicio ni'n gywrain ymhob agwedd o'r gêm.

"Dydyn ni ddim yn gwneud i'n gwrthwynebwyr weithio'n ddigon caled er mwyn dod heibio'u llinell 22 ond roeddwn i'n meddwl ein bod yn gwneud hynny yn llawer gwell yn erbyn yr Eglwys Newydd. Mae'n drueni na lwyddo' ni chwarae ar ein gorau heddiw oherwydd 'da ni'n gwybod ein bod yn dîm da iawn, a'r tywydd oedd yn ein herbyn y tro hwn. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?