S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

URC yn cynyddu buddsoddiad ar ôl eu cyfnod gorau erioed

Mae Grŵp Undeb Rygbi Cymru wedi ail-fuddsoddi £ 33.1m mewn i'r gêm genedlaethol sy'n cyfateb i gynnydd o 11% dros y flwyddyn flaenorol yn ôl ei Adroddiad Blynyddol diweddaraf.

Mae'r twf canrannol yn yr ail-fuddsoddi mewn rygbi yn olrhain yn fras twf canrannol mewn refeniw.

Daw'r buddsoddiad mwyaf erioed ar ôl ail-ariannu a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2015 a phenderfyniad strategol a wnaed gan y Grŵp i ail-fuddsoddi mwy i mewn i'r gêm, yn hytrach na chadw unrhyw elw er mwyn gwella asedau.

Mae cyfanswm y buddsoddiad mewn rygbi Cymru wedi cynyddu £ 3.4m, gyda'r holl arian a enillir yn awr yn cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i mewn i'r gêm; cadwodd y Grwp elw ar ôl treth o £ 0.1m.

Wedi canlyniadau trawiadol ar gyfer y flwyddyn ariannol yn diweddu ym mis Mehefin 2016 mae cynnydd trosiant y Grŵp wedi mynd o £64.8m i £73.3m, cynnydd o 13%, gyda dyled banc y Grwp cyn treth yn gostwng i £ 11.0m (o £ 14.2m).

Cynyddodd cyfanswm y buddsoddiad mewn clybiau cymunedol o 16% o £ 6.8m i £ 7.9m, yn bennaf oherwydd y buddsoddiad yn y rhaglen clybiau ar ôl ysgol, yn y costau strategaeth ddigidol sy'n gysylltiedig â phenderfyniad ymwybodol i hybu'r gêm gymunedol a grantiau cyfleusterau gwell.

Cynyddodd y buddsoddiad yng Nghynghrair y Principality o 14% i £ 1.6 miliwn a chynyddodd y buddsoddiad yn y Rhanbarthau o 12% i £ 19.3m.

Croesawodd y Grŵp 346,000 (2015: 395,000) o gefnogwyr rygbi i Stadiwm Principality yn ystod y flwyddyn. Cyfartaledd presenoldeb am bob gêm oedd 69,000 (2015: 66,000) ac roedd yn cyfateb i gyfartaledd o 93% (2015: 89%). Cyfartaledd incwm am bob tocyn mewn gemau a gynhaliwyd yn Stadiwm Principality oedd £ 39 (2015: £ 47).

"Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi canlyniadau ariannol cadarnhaol ar gyfer y flwyddyn ddaeth i ben ym mis Mehefin 2016," meddai Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru Martyn Phillips sy'n cyfrannu at ei adroddiad blynyddol cyntaf ers ei benodi ym mis Hydref 2015.

"Ein clybiau, y gêm gymunedol a'r holl chwaraewyr, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr eraill ar y lefel honno yw anadl einioes ein gêm genedlaethol. Rydym yn falch o allu dweud bod holl refeniw y Grŵp wedi cael eI ail-fuddsoddi yn ôl i mewn i'r gêm a bod buddsoddiad yn uwch nag erioed ym mhob un o'r gemau Rhanbarthol, Uwch Gynghrair a Chymuned, yn ogystal ag ar sail gyffredinol.

"Mae hyn yn ddymunol gan fod y twf canrannol yn yr ail-fuddsoddi mewn rygbi yn olrhain yn fras twf canrannol mewn refeniw.

"Rydym yn edrych ymlaen at wynebu cyfres newydd o heriau. Ar y naill law, rydym yn ffodus bod gennym nifer o bartneriaethau masnachol tymor hir cryf gydag Under Armour, Principality a darlledu fel enghreifftiau, ar y llaw arall, nawr bydd angen i ni nodi a datblygu ffrydiau refeniw newydd wrth i'r angen i fuddsoddi dyfu'n gyflymach na refeniw.

"Ein ffocws cyntaf a mwyaf amlwg fydd i drefnu nifer cynyddol o ddigwyddiadau yn Stadiwm Principality.

"Yn ogystal, rydym yn treialu opsiwn rhentu swyddfa ar gyfer busnesau lleol yn ein blychau lletygarwch. Byddwn hefyd yn edrych i gynyddu gwerthiant nwyddau, teithiau stadiwm ac rydym yn ystyried gweithredu amgueddfa rygbi."

Ychwanegodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies, "Rydym yn ymwybodol iawn o'n cyfrifoldeb i glybiau cymunedol. Byddwn bob amser yn edrych i gynyddu ein cefnogaeth i'r clybiau a byddwn yn edrych fwyfwy at grantiau cyfleusterau fel y cyfrwng i weithredu hyn.

"Mae helpu clybiau i fuddsoddi yn eu cyfleusterau yn eu galluogi i dyfu'n ganolfannau cymdeirhasol mwy deniadol i'w cymunedau lleol, yn arbennig felly i deuluoedd, menywod a phlant.

"Darparu bwyd, WiFi a chyfleusterau da-fel enghreifftiau cyffredinol yw'r nod i glybiau er mwyn eu galluogi i ddod yn fwy hunangynhaliol. Rydym yn bwriadu buddsoddi mewn clybiau i'w helpu yn hyn o beth.

"Bydd ein ffocws hefyd ar tag, rygbi cyffwrdd a gwyliau rygbi ynghyd â thwf rygbi menywod a merched.

Mae Martyn Phillips hefyd yn awyddus i rannu ei weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn yr Adroddiad:. "Mae gennym bwrpas clir ynghylch pam ein bod yn bodoli fel sefydliad. Rydym wedi diffinio hyn fel 'mwy o bobl, yn fwy aml, gyda mwy o fwynhad a mwy o lwyddiant '.

"Rydym am annog cymaint o bobl â phosibl i ymgysylltu â'n gêm, boed yn gefnogwyr, chwaraewyr, hyfforddwyr, dyfarnwyr, partneriaid masnachol, meddygon neu'n wirfoddolwyr.

"Rydym yn cydnabod bod y rhan fwyaf yn ymgysylltu â rygbi ar gyfer mwynhad. Rydym yn ymwybodol bod rygbi yn gamp gymdeithasol ac mae'r clwb sydd yn aml wrth wraidd y gymuned. Rydym am i rygbi fod yn gamp sy'n fwynhad i'r teulu i gyd."

Ychwanegodd: "Hoffwn ddiolch i'r Bwrdd Gweithredol a'n holl staff, y Bwrdd, ein partneriaid masnachol a phob swyddog clwb, y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr am y gwaith caled a'r ymroddiad maent i gyd wedi'i ddangos yn ystod blwyddyn wych i rygbi Cymru. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?