S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

OWENS YN DAROGAN DWY FUDDUGOLIAETH ARALL

Mae Ken Owens yn rhagweld bydd Cymru'n cael dwy fuddugoliaeth er mwyn sicrhau Hydref llwyddiannus pan ddaw Cyfres Under Armour 2016 i ben ymhen pythefnos.

Bydd bois Rob Howley yn hyderus y penwythnos hwn wrth wynebu Siapan wedi'r fuddugoliaeth 24-20 yn erbyn yr Ariannin, ac mae Owens yn awyddus i adeiladu ar y perfformiad hwnnw ac ychwanegu buddugoliaethau dros Siapan a'r Springboks yr wythnos nesaf.

"Ein targed yw gwella ein perfformiad ac ennill y ddwy gêm nesaf. Roedden ni wedi gwella'r wythnos ddiwethaf ac mae angen i ni wella'r wythnos hon eto er mwyn ennill y ddwy gêm nesaf," meddai Owens.

"Roeddem yn falch iawn gyda'r canlyniad yn erbyn y Pumas ac roedd ein perfformiad yn llawer gwell na'r wythnos flaenorol. Fe gollon ni'r frwydr ar y llinell fantais yn erbyn Awstralia, ond 'roedd ein amddiffyn yn llawer gwell ac roedd ein chwarae gosod yn gadarn yn erbyn yr Ariannin.

"Roedde ni'n ennill llawer mwy o'r gwrthdrawiadau, ac yn dominyddu meddiant a thiriogaeth, yn enwedig yn yr hanner cyntaf ac yn eu rhoi o dan bwysau. Wrth gwrs mae ganndom le i wella eto, ond rydym mewn safle llawer gwell nag yr oeddem . "

Yn ol Owens, un agwedd o'u gêm bydd Cymru'n gweithio'n galed arni'r wythnos hon yw trosi eu cyfnodau o roi eu gwrthwynebyr dan bwysau 'mewn i bwyntiau. Bu cyfnod ar ddiwedd yr hanner cyntaf yn erbyn y Pumas pan fethodd Cymru gael unrhyw bwyntiau o bedwar llinell a phedair sgrym, a hynny pum metr o linell yr ymwelwyr.

"Roeddem yn rhwystredig na lwyddon ni i gael sgor mwy nag a wnaethom yn erbyn y Pumas. Er i ni negydu eu sgrym enfawr ac er bod ein llinell yn dda, mae angen i ni dynhau ein sgarmes," cyfaddefodd Owens.

"Roeddem yn agos iawn at groesi'r llinell ar sawl achlysur, ond wnaetho' ni ddim llwyddo i daro yn yr ardal honno. Mae'r timau gorau yn hemisffer y de yn trosi'r cyfleoedd rheiny.... rhaid i ni weithio a datblygu'r agwedd yma o'n gêm. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?