S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

RHAGOLWG: Y GLEISION YN ERBYN Y GWEILCH

Bydd gwrthdaro rhwng Gleision Caerdydd a'r Gweilch ym Mharc yr Arfau BT Sport am y tro cyntaf ers tair blynedd wrth iddynt gychwyn eu hymgyrchoedd yn y Cwpan Eingl-Gymreig.

Trechwyd y ddau dim gan dimau profiadol o Loegr yn eu gemau cyntaf, a byddant yn awyddus i achub y blaen ar eu gwrthwynebwyr rhanbarthol y penwythnos hwn. Gyda chyfartaledd oedran y pymtheg aeth allan ar y cae prin yn cyrraedd 20-mlwydd-oed yn y rownd gyntaf, cafodd y Gleision eu maeddu 62-25 gan Exeter ar Barc Sandy.

Roedd y sgor yn llawer agosach yn Abertawe wrth i'r Gweilch dychwelyd i Sain Helen i wynebu Harlequins Adam Jones . Aeth y Gweilch ar y blaen yn fuan yn ystod y gêm cyn i'r Quins grymus fachu'r fuddugoliaeth 15-12 yn y pendraw. Ac mae'r ddau dim o Gymru'n anelu i wella'u perfformiadau yn erbyn eu gwrthwynebwyr.

Dywedodd hyfforddwr y Gleision, Richard Hodges: "Rydym wedi mynd drwy'r gwersi sydd angen eu dysgu o gêm yr wythnos diwethaf yn fanwl ac mae angen i ni weithredu ar hyn yn erbyn y Gweilch nos Wener.

"Fel arfer rydym yn chwarae yn erbyn y Gweilch yn Stadiwm Principality, ond mae gennym gyfle y tro hwn i gynnal y gem yn ein cartrtef ni ar noson sych gyda ychydig o wynt. Dylai'r amodau fod yn berffaith ar gyfer achlysur mawr. Rydym yn awyddus i gael gornest go iawn mewn darbi Cymreig, ac mae hynny'n ddigon o ysgogiad i'r chwaraewyr …ac mi fyddan nhw'n llawn egni erbyn dydd Gwener. "

Dywedodd hyfforddwr y Gweilch, Tom Smith: "Roedd llawer o rwystredigaeth yn dilyn y canlyniad yr wythnos diwethaf, ond mae'n rhaid i ni edrych ar fwriad y gystadleuaeth hon, sef cynnig cyfle i'r criw ifanc ddangos eu doniau. Gall rhai o'r bechgyn yma fod yn falch iawn o'u perfformiadau.

"Os ydym yn perfformio'n dda, yna bydd y canlyniad yn ffafriol. Rydym yn awyddus i ennill, rydym yn griw cystadleuol ac roeddem yn hynod siomedig i golli ddydd Gwener diwethaf. Bydd y Gleision yn dod i Gaerdydd er mwyn ennill darbi Cymreig, a dydy canlyniad yr wythnos diwethaf ddim yn adlewyrchu eu talent na'u gallu. "

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?