S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Cyfle i glybiau gael cyllideb unigryw

Bydd clybiau rygbi ledled Cymru yn derbyn hwb pan gyhoeddir cynllun cymorthdal unigryw sydd ar gael o ganlyniad i werthiant tocynnau aruthrol yng nghartref rygbi Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015.

Teithiodd gefnogwyr o bob cwr o'r byd i Gaerdydd wrth i'r ddinas gynnal gemau yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd ar ddechrau'r tymor presennol. Heidiodd cyfanswm o 564,524 o gefnogwyr rygbi i stadiwm cenedlaethol Cymru yn ystod wyth gêm, gan gynnwys buddugoliaeth Cymru dros Fiji a'u buddugoliaeth sylweddol 54-9 yn erbyn Uruguay yn y gêm gyntaf erioed rhwng y ddwy wlad.

Er mwyn dathlu cychwyn cyffrous i'r tymor ar yr hyn a elwir bellach yn Stadiwm Principality, mae Clybiau ar hyd a lled Cymru yn cael eu gwahodd i wneud cais am gymorthdal unigryw gan Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm sydd yn derbyn ardoll o werthiannau tocynnau yn y lleoliad rygbi eiconig.

Gyda'r syniad o adael etifeddiaeth ar gyfer y rhai sy'n hoffi chwaraeon ledled Cymru, mae'r Ymddiriedolaeth wedi cynghori bod yn rhaid i geisiadau fod ar gyfer cyfalaf neu offer fel rhan o 'brosiect chwaraeon'. Mae manylion pellach ar gael yma:http://www.millenniumstadiumtrust.org.uk

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?