S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Williams yn anfodlon gyda’r perfformiad

Mae prif hyfforddwr Cymru Gareth Williams yn siomedig ac yn ceisio cael atebion wedi perfformiad truenus ei dîm ym mhencampwriaeth Saith Bob Ochr Singapore, a'r gêm drychinebus yn erbyn Rwsia yn ffeinal y Powlen.

Collodd Cymru eu tair gêm ar y diwrnod cyntaf yn erbyn Japan, Yr Ariannin ac Awstralia gan ddisgyn i ail haenen cystadleuaeth y Powlen ar yr ail ddiwrnod. Aeth eu gobeithion o wella i'r wal yn erbyn Lloegr, er gwaethaf ymdrechion Luke Morgan a groesodd am ddau gais er mwyn dod yn gyfartal gyda record Tal Selley o Gymru o sgorio 60 cais yng Nghyfres y Byd. Roedd hi'n gêm agos hyd at yr hwter terfynol, ond nid am y tro cyntaf, colli'r bêl fu hanes Cymru, ac roedd 'na bris i'w dalu wrth i Lloegr lamu am y llinell a'r fuddugoliaeth 26-17.

Llwyddodd Luke Treharne a'i fois fachu buddugoliaeth yn erbyn Canada ond yna Rwsia aeth a hi 24-7 yn rownd derfynol y Powlen wedi iddyn nhw golli 52-0 i Gymru yn Vancouver yn gynharach yn y tymor.

Ar wahân i ymdrechion clodwiw Sam Cross a chyflymder Morgan yn llwyddo i gyrraedd record ceisiau Cymru, 'doedd 'na fawr i'w ganmol mewn pencampwriaeth a oedd yn llawn addewid gyda braidd dim yn cael ei gyflawni yn y pendraw.

Dywedodd Williams: "Roedd anghysondeb ein chwarae yn amlwg drwy gydol y penwythnos a 'dydyn ni heb wella dim ers dechrau'r Gyfres. Mae ennill un gêm yn unig yn gwbwl annerbyniol i garfan sydd â digon o brofiad i ddileu anghysondeb o'r fath. Fodd bynnag, collwyd cyfleoedd trwy gydol y ddau ddiwrnod. Rydym ni fel grŵp o unigolion yn well na'r hyn ddangosom ni'r penwythnos hwn.

"Mae ambell un wedi perfformio'n dda, er gwaethaf y ffaith mai fel unigolion y gwnaethon nhw hynny, er enghraifft Sam Cross, Luke Morgan, a Morgan Williams a ddangosodd botential yn ei bencampwriaeth gyntaf.

"Does fawr o amser i Gymru wella'u safon cyn y nawfed rownd, sef yr olaf ond un yng Nghyfres Saith Bob Ochr Rygbi'r Byd HSBC ym Mharis. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 13-15 Mai, ble byddan nhw'n chwarae yn erbyn arweinwyr y gyfres Fiji, Samoa a'r Alban.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?