S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Rygbi

Chwilio am brif hyfforddwr newydd i RGC

Mae Rhanbarth Ddatblygu Gogledd Cymru wedi hysbysebu am brif hyfforddwr newydd i arwain RGC yn eu tymor cyntaf o rygbi Uwch Gynghrair Principality.

Mae tîm blaenllaw Rhanbarth Ddatblygu Gogledd Cymru, sydd newydd ei ddyrchafu i'r Uwch Gynghrair am y tro cyntaf, yn chwilio am hyfforddwr llawn amser yn dilyn ymadawiad cyn Gyfarwyddwr Rygbi Leeds, y Scarlets a'r Gleision, Phil Davies, sydd bellach wedi ymrwymo i Rygbi Namibia.

Mae'r tim sydd â'u cartref ym Mae Colwyn, wedi cael dyrchafiad ddwywaith mewn pedair blynedd ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl, y tro cyntaf dan arweiniad yr hyfforddwr, Chris Horsman.

Mae cyn Bennaeth Rygbi RGC Joe Lydon, a chwaraeodd ran allweddol pan sefydlwyd Gogledd Cymru fel Rhanbarth Datblygu, ynghyd â'r uwch dîm a'r academi, ym Mharc Eirias ar hyn o bryd fel ymgynghorydd i'r tim hyfforddi. Mae hefyd yn helpu gyda recriwtio a chadw chwaraewyr a hyfforddwyr er mwyn eu paratoi ar gyfer bywyd yn yr Uwch Gynghrair. Bydd hefyd yn arwain y broses i benodi'r unigolyn gorau fydd yn gallu datblygu'r tim i'r lefel nesaf.

Dywedodd Pennaeth Perfformiad Rygbi URC Geraint John, "Mae hwn yn gyfle cyffrous i hyfforddwr profiadol i lywio RGC 1404 i'r lefel nesaf wrth iddyn nhw ddatblygu fel tim lled-broffesiynol ac i hybu Gogledd Cymru ymhellach fel Rhanbarth Ddatblygu.

"Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi hyfforddwyr yr academi a'r graddau oedran ynghyd â'r staff cyflyru er mwyn sicrhau bod cydlynu pendant drwy lwybr perfformiad RGC. Bydd pwyslais hefyd ar gydweithio gyda'r clybiau yng Ngogledd Cymru sydd wedi bod mor hanfodol i'w lwyddiant hyd yn hyn ac a fydd yn parhau i chwarae rhan allweddol.

"Ynghyd â phenodi Rheolwr Cyffredinol newydd, bydd y prif hyfforddwr newydd hefyd yn helpu i gyflawni elfennau allweddol o'r Cynllun Strategol newydd ar gyfer Gogledd Cymru, gan roi'r profiad gorau posib i'r chwaraewyr. Bydd hyn yn eu galluogi i gyflawni eu llawn botensial o fewn y Rhanbarth a thu hwnt, ac i fanteisio'n llawn ar fod yn rhan o Uwch Gynghrair y Principality er mwyn sicrhau bod Rhanbarth Ddatblygu Gogledd Cymru yn rhan gwbl integredig o rygbi Cymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?