
Mae S4C yn chwilio am syniadau newydd am gynnwys i gyhoeddi ar Hansh. Rydym eisiau cynnwys bydd yn ysbrydoli, rhyfeddu a chodi gwen. Cyfresi ffurf ganolig mentrus a chyfoes, i gyhoeddi ar YouTube Hansh
Rydym yn chwilio am syniadau creadigol ar gyfer cyfresi o fideos cylchol (looping) ar gyfer YouTube, wedi’u hanelu at gynulleidfaoedd ifanc.
Galwad am syniadau Hansh (PDF)
Hoffwn gyhoeddi Canllawiau Rhaglenni Etholiad Senedd Cymru 2026.
Mae'r ddogfen hefyd i'w gweld ar wefan Canllawiau Cynhyrchu S4C.
Hoffwn gymryd y cyfle i bwysleisio ein hymrwymiad i greu a chynnal amgylchedd gwaith diogel, parchus a chynhwysol i bawb sydd yn gweithio i - ac ar ran S4C.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd sydd wedi dod i rym yn y Deyrnas Unedig yn ddiweddar yn cryfhau’r amddiffyniadau yn erbyn aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn cynyddu dyletswydd cyflogwyr i gymryd camau rhagweithiol i atal aflonyddu rhywiol - rhywbeth yr ydym ni’n gwbl ymrwymedig iddo ac yn ei gymryd o ddifrif.
Hoffwn hefyd eich atgoffa o’ch dyletswydd wrth weithio i S4C, neu wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer neu ar ran S4C.
Hoffwn felly rannu ein Datganiad Cyflenwyr: Aflonyddu Rhywiol, sydd hefyd ar gael ar ein gwefan. Mae’r polisi’n nodi’n glir beth yw ymddygiad annerbyniol a sut rydym yn cefnogi unrhyw un sy’n profi neu’n tystio i unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol.
Hoffai S4C gyhoeddi mai partneriaeth rhwng cwmnioedd Darlun a Slam oedd yn llwyddiannus yn y tendr Digidol diweddar, a chwmni Whisper Cymru oedd yn llwyddiannus yn y tendr cynnwys Chwe Gwlad.
Diolch i bawb a wnaeth ymgeisio.Rydym wirioneddol yn gwerthfawrogi’r ymdrech a’r gwaith aeth i lunio’r ceisiadau ar gyfer y ddau dendr.
Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu arlwy o gynnwys Ffeithiol, gyda’r bwriad o ddarlledu o Haf 2026 ymlaen.
Mae’r arlwy ffeithiol yn ganolog i amserlen y sianel ac mae’r tendr yma yn rhoi cyfle i gwmni unigol neu i gwmnïau dod at eu gilydd i gynnig pecyn o gynnwys uchelgeisiol a chreadigol
Ceisiadau i’w derbyn erbyn: 12:00 canol dydd Llun 26 Ionawr 2026
Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)
Yn dilyn derbyn cwestiynau ar gyfer Tendr Pecyn Ffeithiol, gweler y ddolen isod sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau a’u hatebion:
Cwestiynau ac Atebion - Tendr Pecyn Rhaglenni Ffeithiol (PDF)
3 Hydref 2025
Mae S4C wedi bod yn gartref i gomedi Cymreig ers degawdau ac rydym yn chwilio am y don nesaf o leisiau comedi i ddod â chwerthin i gartrefi ar draws y wlad.
Hoffem dderbyn syniadau gwreiddiol ar gyfer peilot comedi 10 munud o hyd. Dyma gyfle i ni arbrofi gyda fformatau newydd a phrofi ymateb cynulleidfaoedd mewn ffordd gyflym a chreadigol. Gall eich syniad fod yn fonolog, ensemble, sitcom, ffug-ddogfen (mocumentarty) comedi tywyll dirdro (twisted) – neu ffurf wreiddiol.
Mae S4C a TAC yn falch o’ch gwahodd i Ddychmygu’r Dyfodol – cynhadledd flynyddol newydd ar y cyd i osod cyfeiriad ar gyfer cynhyrchu a chreu cynnwys Cymraeg.
9 Hydref 2025
Mae S4C a Chyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd ceisiadau gan gwmnïau cynhyrchu sydd â diddordeb mewn creu ffilm ddogfen ffurf hir am y celfyddydau yng Nghymru.
16 Medi 2025
Gwahoddir ceisiadau gan Gwmnïau i gynhyrchu pecyn o gynnwys digidol. Rydym yn galw am becyn o syniadau dewr a digidol eu natur sy’n adlewyrchu calon, hiwmor ac enaid Cymru, wedi’u teilwra’n benodol ar gyfer cynulleidfa 25-44. Gyda’r bwriad o gyhoeddi ar ddechrau 2026.
Linc i’r tendr yma: Tendr Pecyn Cynnwys Digidol
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: 12:00 Canol dydd, Dydd Mercher 22 Hydref 2025
15 Medi 2025
Nodyn i'ch atgoffa o bwysigrwydd y dyddiadau cymeradwyo a chyfleu ar gyfer cynnwys i S4C sydd wedi cytuno a nodi yn eich trwydded/cytundeb.
Mae'r dyddiadau hyn yn cael eu defnyddio gan system ddarlledu S4C, ac yn cael eu bwydo i wahanol adrannau er mwyn trefnu amserlenni gwaith mewnol, paratoi deunydd hyrwyddo a marchnata, ac ar gyfer cwmnïoedd allanol sy’n darparu gwasanaethau mynediad ar gyfer ein cynnwys. Mae’n bwysig felly os oes unrhyw newidiadau i ddyddiadau cyfleu, eich bod yn ein hysbysu cyn gynted â bod modd er mwyn addasu’r llifoedd gwaith a sicrhau bod y staff perthnasol ar gael i ymateb a chyflawni’r gwaith mewn pryd.