S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bwyd Epic Chris

New York Strip a Salsa Criolla i Matthew Rhys

So, nesh i addo cwcio stêc i Matthew Rhys, a gan bod fi'n New York - New York strip amdani! Sirloin dani'n galw fo'n fama, ag esh i am y gorau i Matth. Buwch o fferm lleol, oedd 'di bod yn pori ar wair. O'dd y cig yn anygoel. Nesh i gwcio hwn ar BBQ's cymunedol yn Brooklyn, ond mae o jyst cystal ar eich BBQ yn yr ardd gefn!

Cynhwysion:

  • Mêr y esgyrn x 2
  • New York Strip/ Stêc sirloin
  • Bara lawr (1 tun bach)
  • 'Brwsh' wedi ei wneud o frigau rhosmari a teim. Defnyddiwch linyn i greu'r brwsh.

Salsa:

  • Pupur coch a phupur gwyrdd
  • Tomatos mawr x 2
  • Nionod coch x2
  • Menyn x1 bloc
  • Garlleg x2 fylb
  • Tsili fresh x 2
  • Olew olewydd
  • Finegr seidr afal
  • Pinsiad o halen
  • Persli ffres x 1 bwnsh

Dull:

  1. Dechreuwch drwy roi chydig o olew a halen ar y stêcs a choginiwch am ychydig funudau ar y bbq - rhyw 3 munud pob ochr am 'rare' yn ddibynnol ar dewder eich sdêcs.
  2. Tra bod y stêcs yn coginio, rhowch y bara lawr a'r menyn mewn padell fach ar y tân i gynhesu. Wrth i'r sdêcs goginio defnyddiwch eich brwsh rhosmari a teim i 'bastio'r' cig efo'r menyn bara lawr.
  3. Unwaith mae nhw wedi coginio, tynnwch y stêcs oddi ar y tân a gadewch iddyn nhw orffwys amo leiaf 10 munud.
  4. Tra bod y stêcs yn gorffwys, paratowch y salsa. Rhowch y pupurau, nionod coch, tsilis, tomatos a'r garlleg yn syth ar y tân a choginiwch am ychydig funudau.
  5. Tynnwch y croen sydd wedi llosgi o'r nionyn coch a gwasgwch y garlleg allan o'r bylb, ond gadewch y rhannau sydd wedi llosgi ar bopeth arall am flas myglyd. Torrwch bob dim i fyny a'u rhoi mewn powlen.
  6. Rhowch joch dda o olew olewydd a finegr seidar afal yn y bowlen efo'r llysiau a cymysgwch yn dda. Gorffennwch efo'r persli ffres.
  7. Unwaith y bydd y salsa wedi'i orffen, torrwch y sdêcs yn sleisus a platiwch 'fyny.
  8. Am chydig o theatr, defnyddiwch 'flambadou' i doddi mêr yr esgyrn dros y cyfan i roi blas NEXT LEVEL i'r pryd!
  9. Mwynhewch!
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?