S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Bwyd Epic Chris

Wystyrs Tomos

So dani 'di gael oysters o Grand Central Station - rhai da odda nhw fyd, OND ti methu cael Tomos Parry yn New York efo barbeciw ar roof top heb iddo fo cwcio oysters i fi…BRAT STYLE!

Cynhwysion:

  • Wystrys
  • Bara lawr
  • Ciwcymbr
  • Rhuddygl
  • Siampên organig
  • Dŵr
  • Siwgr
  • Stoc pysgod
  • Olew olewydd
  • Sudd lemon
  • Finegr
  • Dil ffres

Dull:

  1. Yn gyntaf mae angen barbeciwio'r ciwcymbr. Dw i'n rhoi olive oil a halen arno fo cyn ei roi o ar y tân.
  2. Mae angen charr da ar y ciwcymbr cyn ei biclo.
  3. I greu'r picl, dw i'n cymysgu finegr, siampên organig, dŵr a siwgr, cyn ei roi o ar y tân i gynhesu.
  4. Tra ei fod yn cynhesu, torrwch y ciwcymbr sydd wedi charrio gan adael y bits lyfli 'na sydd wedi llosgi am fwy o flas.
  5. Unwaith mae'r juice picl yn gynnes, dw i'n ychwanegu bara lawr a dil ffres.
  6. Wedyn, dwi'n arllwys y juice picl dros y ciwcymbr sydd wedi ei dorri.
  7. Dw i'n rhoi y wystrys ar y tân efo cymysgedd o fish stock, olew olewydd, lemon a finegr.
  8. Unwaith maen nhw'n byblo mae'r wystrys yn barod.
  9. I orffen, dwi'n ychwanegu sudd lemon, picl ciwcymbr, gratiad o horseradish a dil ffres.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?