S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Meringues Nadolig

Rysait hawdd a hyfryd i'r Nadolig... ond pa un yw'r gorau, Cadi neu Jack?

Meringues Nadoligaidd

100g Gwyn Ŵy

100g Siwgwr Gwyn

Sprinkles Nadoligaidd.

Torrwch yr wyau a gwahanwch y melyn ŵy a gwyn ŵy mewn powlenni ar wahân.

Chwisgiwch y gwyn ŵy tan ei fod yn ffurfio cymysgedd gwyn trwchus.

Ychwanegwch siwgwr gwyn fesul llwy fwrdd yn araf nes bod y ddau wedi cyfuno. Pan fod cymysgedd gwyn trwchus gyda chi rhowch mewn i dri bag peipio gyda nozzles gwahanol.

Peipwch y meringue ar ben tre popi gyda papur pobi ar ei ben. Defnyddiwch y nozzles gwahanol i ffurfio torch Nadolig. Gallwch hefyd ychwanegu sprinkles cyn pobi.

Rhowch yn y ffwrn 160C am awr. Trowch y ffwrn i ffwrdd ar ôl awr gan adael y meringues yn y ffwrn am hanner awr ychwanegol.

Tynnwch allan o'r ffwrn a'u gadael i oeri.

Rhowch rhuban o gwmpas y dorch a'i hongian ar y goeden!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?