S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Cupcakes Coeden Nadolig

Cupcakes Coed Nadolig

(Yn gwneud 36 cacen unigol)

Cynhwysion

222 gram o Marjarîn

504 gram o Siwgwr Brown golau

4 Ŵy

442 gram o Flawd Plaen

2 llwy dê o Bowdwr Pobi

2 llwy dê o Soda Bicarb

1 llwy dê o Halen

55 gram o Bowdwr Coco

55ml o ddŵr oer

480ml o ddŵr berw

1 llwy dê coffi.

Dull

Cymysgwch y blawd, bicarb, powdwr pobi a halen mewn powlen mawr.

Mewn jwg, cymysgwch y coco, dŵr berw a choffi gyda'i gilydd. Cofiwch ofyn i oedolyn helpu chi gyda'r cam yma.

Cymysgwch y siwgwr a marjarîn gyda'i gilydd tan yn ffurfio cymysgedd hufennog.

Ychwanegwch yr wyau un ar y tro.

Ychwanegwch y gymysgedd sych a pharhau i gymysgu.

Yn araf ychwanegwch y gymysgedd siocled ychydig ar y tro.

Pan fod pob dim wedi ychwanegu ac wedi ffurfio cymysgedd llyfn arllwyswch i mewn i gasus cacennau bach papur.

Pobwch ar 160c am 16 munud.

Buttercream

300 gram o Fenyn Hallt

300gram o Fenyn heb halen.

600gram o Siwgwr Eisin.

240gram Condensed Milk

120g o Sprinkles

1 llwy dê o Fanilla.

Hylif lliwio bwyd (Gwyrdd)

Cymysgwch y menyn nes yn llyfn ac yn troi yn felyn golau neu wyn.

Ychwanegwch y siwgwr eisin a chymysgu.

Ychwanegwch y condensed milk, fanila a hylif lliwio bwyd (gwyrdd)

Peipiwch ar ben y cacennau bach i edrych fel coed Nadolig gwyrdd ac addurnwch gyda sprinkles i edrych fel addurniadau nadolig!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?