S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Stwnsh

Brechdan Cwcis Nadolig

Brechdanau Cwci Nadoligaidd

300 gram o Fenyn Hallt

130 gram o Siwgwr Caster

210 gram o Siwgwr Brown Golau

2 Ŵy

1 llwy dê o Fanila

500 gram o Flawd Plaen

1 llwy dê Bicarb

250 gram o Falws Melys bach

130 gram chips siocled gwyn

Jam.

Cymyswch y menyn a siwgwr nes bod y gymysgedd yn eithaf ysgafn a fflwffog.

Ychwanegwch yr wyau a'r fanila.

Mewn powlen arall cymysgwch y cynhwysion sych.

Yn araf, cymysgwch y cynhwysion sych i mewn gyda'r menyn.

Rhannwch y toes mewn i beli 45/50 gram a gosodwch ar din pobi gan adael digon o le rhwng bob pêl.

Pobwch ar 170c am 6 munud. Pan ddown nhw allan o'r ffwrn gwthiwch y cwcis i lawr gyda gwaelod cwpan i'w gwneud yn fwy fflat cyn eu rhoi nhw nôl yn y ffwrn am 5 munud arall. Cofiwch ofyn am help oedolyn ar gyfer y rhan yma.

Tynnwch allan o'r ffwrn a gwthiwch eto fel ei fod yn flat.

Rhowch haen o jam ac eisin menyn rhwng y ddau fisged fel ei fod yn creu brechdan ac addurnwch y top os hoffech chi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?